05
August
2021
|
12:43
Europe/Amsterdam

Rural Pembrokeshire village get ready for ultrafast digital upgrade

download
Glandwr Community Fibre Partnership
Summary

The rural community of Glandwr, in Pembrokeshire, will now be able to access some of the fastest and most reliable broadband speeds in Europe thanks to a partnership between local residents and Openreach. (Gweler fersiwn Cymraeg isod - Welsh version below)

Glandwr, Pembrokeshire

The secluded village of Glandwr, situated 4 miles south of Crymych, will soon be able to access speeds of up to one gigabit bit per second (1Gbps) using Fibre-to-the-Premise (FTTP) technology where fibre is run directly from the exchange all the way to property.

In order to build this ‘full fibre’ network Openreach engineers ran 21km of fibre cable overhead and underground from the telephone exchange in Cardigan to the residents of Glandwr.

The improved fibre broadband infrastructure, which will cover approximately 100 properties, is being enabled by Openreach’s Community Fibre Partnership (CFP) programme - a scheme which is designed to help people living and working in rural communities that are not included in any current roll-out plans.

Nearly 90 communities across every part of rural Wales have benefitted from Openreach’s CFP programme with more than 11,000 properties now being able to access fibre broadband as a result. In total, more than 260 Welsh communities have been working with Openreach to explore this method of delivering fibre broadband.

The cost of the Glandwr CFP was covered by investment from both Openreach and the residents themselves who were able to access the Welsh Government’s top-up to the UK Government’s Rural Gigabit Voucher scheme as part of their contribution.

Welcoming the new infrastructure on a recent visit to Glandwr, Paul Davies MS for Preseli and Pembrokeshire, said: “This is great news for the community.”

“I’d like to thank Openreach and their engineers for all the hard work that’s gone into connecting Glandwr and also congratulate the community that have led on this project.

“As a result of this scheme the residents of Glandwr will now be able to connect with the rest of the world using ultrafast full fibre broadband.”

Openreach Partnership Director for Wales, Connie Dixon, said: “We all know how essential it is for homes and businesses up and down the country to have fast, reliable broadband. From running a business to home schooling and shopping - so much is done online.”

“While more than 95 per cent of premises in Wales can already access superfast broadband we know there is more to do to reach those final premises.

“There are a small number of communities, such as Glandwr, that are missing out on good broadband connectivity as providers, for a variety of reasons, struggle to upgrade alone. To bridge this gap our Community Fibre Partnership helps bring ultrafast connections to those areas.

“By making ultrafast broadband available to the Glandwr community we’re underlining our commitment to making fibre broadband as widely available as possible across Wales – including the ‘hard to reach’ areas.”

Rural residents and businesses in Wales may be eligible for vouchers from both UK and Welsh Government to cover the costs of installing gigabit-capable broadband to their premises when part of a group project. To find out more visit Community Fibre Partnerships (openreach.com)

Once Openreach has installed the infrastructure, residents can place an order for the new faster services with an Internet Service Provider of their choice.

The Community Fibre Partnership scheme is in addition to Openreach’s existing work in Wales, where more than 320,000 homes and businesses can already order ultrafast, ultra-reliable full fibre broadband.

The business recently made a number of announcements on its latest build plans across Wales where more than 415,000 additional homes and businesses - in 140 mainly rural and harder to serve areas across every single Welsh local authority area – will get access to ultrafast fibre broadband. The company is also working in partnership with Welsh Government to reach those that are in the final 5%.

Openreach plays an important role across Wales. More than 2,500 of our people live and work here. Recent research by the Centre for Economics and Business Research (Cebr) highlighted the clear economic benefits of connecting everyone in Wales to full fibre. It estimated this would create a £2 billion boost to the local economy.

Further afield Openreach is investing £12 billion to build its ultrafast full fibre technology to a total of 25 million premises across the UK, including more than six million in the hardest-to-serve parts of the country by the end of 2026.

This short video explains what Full Fibre technology is and you can find out more about our Fibre First programme, latest availability and local plans here.

ENDS

Glandwr, Pembrokeshire

Pentref gwledig Sir Benfro yn paratoi ar gyfer band eang tra-chyflym

Mae cymuned wledig Glandŵr, sir Benfro, ar fin cael gwasanaeth band eang fydd yn cymharu â’r mwyaf cyflym a dibynadwy yn Ewrop, diolch i bartneriaeth rhwng y trigolion ac Openreach.

Cyn bo hir bydd pentref Glandŵr, 4 milltir i’r gogledd o Grymych, yn gallu cael gwasanaeth band eang ar gyflymder hyd at un gigabeit yr eiliad (1Gbps) wrth ddefnyddio technoleg ffeibr i’r adeilad (Fibre-to-the-Premise - FTTP) sy’n rhedeg ffeibr yn syth o’r gyfnewidfa i gartref neu fusnes.

Er mwyn adeiladu’r rhwydwaith ffeibr cyflawn - gosododd peirianwyr Openreach dros 21 cilomedr o geblau ffeibr o gyfnewidfa Aberteifi i gartrefi Glandŵr.

Bydd y rhwydwaith ffeibr band eang datblygedig yn gwasanaethu oddeutu 100 adeilad. Adeiladwyd gyda chymorth rhaglen Partneriaeth Ffeibr Cymunedol Openreach - cynllun a luniwyd i helpu pobl yn byw mewn cymunedau gwledig na fydd yn derbyn gwasanaeth drwy raglenni band eang y prif gwmnïau cyfathrebu.

Erbyn hyn mae bron 90 cymuned wledig ym mhob rhan o Gymru wedi elwa o bartneriaeth Openreach, gyda dros 11,000 adeilad yn gallu cael band eang ffeibr o ganlyniad. At ei gilydd, mae dros 260 cymuned Gymreig wedi gweithio gydag Openreach er mwyn ymchwilio’r posibilrwydd o ddarparu band eang ffeibr.

Talwyd costau partneriaeth Glandŵr drwy fuddsoddiad gan Openreach a’r trigolion eu hunain wrth ddefnyddio cynllun Llywodraeth Cymru i ychwanegu at gynllun Talebau Gigabeit Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Wrth groesawu’r rhwydwaith newydd ar ymweliad diweddar â Glandŵr, dywedodd Paul Davies AS Preseli Sir Benfro: “Mae’n newyddion gwych i’r gymuned.”

“Diolch i Openreach a’i beirianwyr am eu gwaith caled wrth gysylltu Glandŵr a llongyfarchiadau i’r gymuned ar eu cyfraniad neilltuol at y cynllun hwn.

“Ar ôl gweithredu’r cynllun bydd trigolion Glandŵr yn awr yn gallu cysylltu â gweddill y byd wrth ddefnyddio band eang ffeibr cyflawn tra chyflym.”

Dywedodd Cyfarwyddwraig Partneriaethau Openreach yng Nghymru, Connie Dixon: “Mae pawb yn deall pa mor bwysig yw darparu band eang cyflym a dibynadwy ar gyfer cartrefi a busnesau ar hyd a lled y wlad. Wrth redeg busnes, dysgu gartref neu siopa - byddwn yn gwneud cymaint arlein erbyn hyn.”

“Er bod dros 95% o adeiladau yng Nghymru yn gallu cael band eang uwchgyflym erbyn hyn, mae dal llawer o waith ar ôl er cyrraedd y cartrefi a busnesau mwyaf anodd eu cyrraedd.

“Yn anffodus, mae dal nifer fach o gymunedau tebyg i Glandŵr sy’n methu cael cysylltedd band eang da wrth i’r cwmnïau cyfathrebu, am amryw resymau, fethu uwchraddio gwasanaethau fel rhan o’u rhaglenni arferol. Sefydlwyd Partneriaeth Ffeibr Cymunedol Openreach er mwyn pontio’r bwlch a helpu i ledu band eang tra chyflym i’r ardaloedd hynny.

“Wrth ddarparu band eang tra chyflym ar gyfer cymuned Glandŵr rydym yn tanlinellu ein hymroddiad i ledu band eang ffeibr i bob rhan o Gymru - yn cynnwys yr ardaloedd anodd eu cyrraedd.”

Mae’n bosibl bydd trigolion a busnesau mewn ardaloedd gwledig yn gymwys i hawlio talebau gan Lywodraeth Cymru a San Steffan tuag at y costau o osod band eang gigabeit pan fyddant yn rhan o broject grŵp. I wybod mwy ewch i Partneriaeth Cymunedol Ffeibr.

Unwaith bydd Openreach wedi gosod y seilwaith, bydd trigolion yn gallu archebu’r band eang cyflym newydd drwy gwmni gwasanaeth o’u dewis.

Bydd hyn yn ychwanegol i waith cyfredol Openreach yng Nghymru, ble mae dros 320,000 cartref a busnes eisoes yn gallu archebu band eang ffeibr cyflawn cyflym a dibynadwy.

Yn ddiweddar, gwnaeth y cwmni nifer o gyhoeddiadau am ei gynlluniau adeiladu, gan ychwanegu 415,000 cartref a busnes - mewn 140 ardal wledig a lleoliadau eraill anodd eu cyrraedd ar draws pob ardal awdurdod lleol - at y cynllun. Yn ogystal, mae’r cwmni yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er cyrraedd 5% olaf y wlad.

Mae Openreach yn chwarae rôl bwysig iawn yng Nghymru, gyda dros 2,500 o’n pobl yn byw a gweithio yma. Mae ymchwil diweddar gan Centre for Economics and Business Research (Cebr) wedi tanlinellu’r buddion economaidd o gysylltu pawb yng Nghymru â’r rhwydwaith ffeibr cyflawn. Amcangyfrifir byddai’n creu hwb gwerth £2 biliwn i economi’r wlad.

Fel rhan o’r cynllun diwygiedig, bydd Openreach yn buddsoddi £12 biliwn wrth ledu ei dechnoleg ffeibr cyflawn i 25 miliwn cartref a busnes ar draws y Deyrnas Unedig, yn cynnwys dros chwe miliwn yn yr ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd erbyn diwedd 2026.

Mae fideo byr yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn, a manylion ein rhaglen ‘Fibre First’, y darpariaethau diweddaraf a chynlluniau lleol yma.

DIWEDD