31
January
2024
|
01:01
Europe/Amsterdam

Openreach hits halfway point with ultrafast broadband coverage across Wales

Summary

Top 20 Welsh broadband hotspots named as Openreach hits 50% milestone (Gweler fersiwn Cymraeg isod / Welsh language version below)

engineer at front of van with stadium CAP in background v2

Half of all Welsh properties can now access ultrafast, ultra-reliable broadband thanks to Openreach’s investment in a new, full fibre digital network.

Wales’ largest network provider has also revealed the top 20 locations across the country1 with the best ultrafast broadband coverage – and a Flintshire town has come out on top.

More than 816,000 homes and businesses can now access ultrafast, full fibre broadband via a range of retail providers using the company’s network. And, while cities and urban parts of south Wales are often perceived to have the best broadband, small towns and villages in north Wales dominate Openreach’s list of hotspots with the highest levels of full fibre.

Buckley in Flintshire has the highest coverage in Wales with more than nine out of every 10 properties able to upgrade to ultrafast broadband today. And across the county border in Conwy, the village of Old Colwyn has the second best coverage in Wales, with the village of Llangennech near Llanelli flying the flag for south Wales in third spot.  

Among the top 20 are Penygroes and Blaenau Ffestiniog in Gwynedd, Burry Port in Carmarthenshire and Cross Keys in Caerphilly.

Openreach has invested more than £240 million2 in Wales’ new network with 277,000 households and businesses having upgraded to the faster, ultra-reliable services already.  

Kim Mears, Chair of the Openreach Wales Board, said: “This is tremendous news for Wales.”

“Having fast reliable connectivity that will be fit for the future is a huge game-changer in terms of how families live their lives, how our children learn and how our businesses prosper

“As one of the largest employers in Wales our engineers are building our full fibre network in communities where we ourselves live and work so to think that half of Wales can now access ultrafast broadband thanks to Openreach’s full fibre network naturally gives us all a feeling of great pride.

“It’s brilliant to reach 50% coverage across Wales, and a huge thank you must go to our hard working engineers and build partners who’ve helped make it happen. But we’re not stopping there…”

download
50% full fibre coverage Wales with SoS for Wales

Work is continuing on the ground in places like St Asaph, Ebbw Vale and Tenby as well as Cardiff, Swansea, Newport and other town and villages up and down the country.

People can visit openreach.co.uk/ultrafastfullfibre to register for updates and check their postcode to see if and when services are available from their chosen provider. 

It was recently announced that 44,000 homes and businesses across some of the harder to reach areas of Wales are benefiting from improved connectivity thanks to a successful partnership between Openreach and the Welsh Government.

The Secretary of State for Wales, David TC Davies said: “This is an important milestone in the drive to ensure more homes and businesses across Wales benefit from full fibre broadband, improving vital connectivity.

“Alongside Openreach’s commercial build we’re delighted to be working with them to bring their future-proofed digital infrastructure to some of the harder to reach parts of Wales through our popular Gigabit Voucher scheme.

The Openreach network offers the widest choice of providers, such as BT, Sky, TalkTalk, Vodafone and Zen, which means people have lots of choice and can shop for the best deals.

Welsh Government Minister for the Economy, Vaughan Gething said: “I’m delighted that more than half of all homes and businesses can live, work or study with gigabit capable speeds. I’d like to thank Openreach and the wider telecommunications industry for their continued investments in Wales, and particularly this industry’s hardworking engineers who are out in all weathers day and night building the networks that we will all rely on for generations to come.

“Having access to a fast reliable broadband connection is becoming increasingly important for homes and businesses throughout Wales and that is why the Welsh Government has invested in providing the infrastructure capable of delivering them.”

You can find out more about the benefits of an upgrade to Full Fibre broadband on the Openreach website.

1 Openreach’s Top 20 ultrafast broadband hotspots in Wales:

 LocationCounty
1BuckleyFlintshire
2Old ColwynConwy
3LlangennechCarmarthenshire
4CaergwrleFlintshire
5Burry PortCarmarthenshire
6CricciethGwynedd
7MostynFlintshire
8DenbighDenbighshire
9PenmaenmawrConwy
10Connahs QuayFlintshire
11FlintFlintshire
12Cross KeysCaerphilly
13LlanymynechMontgomeryshire/Powys
14PenygroesGwynedd
15RhymneyCaerphilly
16BarryVale of Glamorgan
17PorthmadogGwynedd
18AberconwyConwy
19Blaenau FfestiniogGwynedd
20LlandudnoConwy

2 Investment figure based on an average build cost of £300 per premises.

Westgate van

 

Openreach yn darparu band eang tra-chyflym ar gyfer hanner y wlad

 

Erbyn hyn mae hanner o gartrefi a busnesau Cymru yn gallu cael band eang tra-chyflym a dibynadwy yn dilyn buddsoddiad Openreach mewn rhwydwaith ffeibr cyflawn digidol newydd.

Yn ogystal mae darparwr rhwydwaith mwyaf Cymru wedi datgelu’r 20 lleoliad gorau1 ar draws y wlad gyda’r ddarpariaeth orau yn nhermau band eang tra-chyflym - gyda thref yn sir y Fflint ar frig y rhestr.

Yn awr, mae 816,000 cartref a busnes yn gallu cael band eang ffeibr cyflawn tra-chyflym trwy ddewis eang o gwmnïau sy’n defnyddio rhwydwaith y cwmni. Ac er y credir yn gyffredinol mai dinasoedd ac ardaloedd trefol y de sy’n elwa o’r gwasanaethau band eang gorau, mewn gwirionedd pentrefi a threfi bach y gogledd sydd ar frig rhestr Openreach o’r ardaloedd gyda’r gwasanaethau ffeibr cyflawn gorau.

Bwcle yn sir y Fflint sy’n derbyn y gwasanaeth mwyaf estynedig, gyda dros naw o bob 10 cartref a busnes yn gallu uwchraddio i gael band eang tra-chyflym heddiw. A dros y ffin yn sir Conwy, pentref Hen Golwyn sy’n elwa o’r ail wasanaeth gorau ar draws y wlad, gyda phentref Llangennech ger Llanelli yn y de yn y trydydd safle.  

Mae Penygroes a Blaenau Ffestiniog (Gwynedd), Porth Tywyn (Sir Gâr) a Pontycymer (Crosskeys), Caerffili hefyd ymhlith yr 20 uchaf.

Mae Openreach wedi buddsoddi dros £240 miliwn2 mewn rhwydwaith newydd Cymru, gyda 277,000 cartref a busnes eisoes wedi uwchraddio i’r gwasanaethau cyflym a dibynadwy.  

Dywedodd Kim Mears, cadeirydd Bwrdd Openreach Cymru: “Mae’n newyddion gwych i Gymru.”

“Bydd gallu cael cysylltedd cyflym a dibynadwy yn hanfodol wrth helpu teuluoedd i fwynhau eu bywydau yn y dyfodol, helpu plant i ddysgu a galluogi busnesau i ffynnu.

“Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, mae ein peirianwyr yn adeiladu ein rhwydwaith ffeibr cyflawn o fewn y cymunedau ble mae’r gweithwyr eu hunain yn byw a gweithio, felly rydym yn falch iawn o weld bod hanner y wlad yn gallu cael band eang ffeibr cyflawn wrth gysylltu â rhwydwaith newydd Openreach.

“Mae’n ffantastig bod mewn sefyllfa i wasanaethu 50% o’r wlad ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n peirianwyr a phartneriaid am helpu i gyflawni hynny. Ond nid dyna ddiwedd y stori…”

Aberaeron van and houses

Bydd gwaith yn parhau mewn llefydd fel Llanelwy, Glyn Ebwy a Dinbych y Pysgod, ynghyd ag ardaloedd Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, a threfi a phentrefi eraill ar draws y wlad.

Mae pobl yn gallu ymweld ag openreach.co.uk/ultrafastfullfibre er mwyn cofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf a gwirio eu cod post i weld pryd bydd gwasanaethau ar gael gan y cwmni o’u dewis. 

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod 44,000 cartref a busnes mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd yn elwa o gysylltedd gwell yn sgil partneriaeth lwyddiannus rhwng Openreach a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies: “Dyma garreg filltir bwysig yn ein hymgyrch i ddarparu band eang ffeibr cyflawn ar gyfer mwy o gartrefi a busnesau ar draws y wlad.

“Ochr yn ochr â rhaglenni masnachol Openreach, rydym yn falch o gydweithio â’r cwmni i ledu ei rwydwaith digidol i rai o’r ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd drwy ein cynllun Talebau Gigabeit poblogaidd."

Dywedodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn bod mwy na hanner o holl gartrefi a busnesau yng Nghymru yn gallu byw, gweithio neu astudio gyda chyflymder gigabit. Hoffwn ddiolch i Openreach a'r diwydiant telathrebu ehangach am eu buddsoddiadau parhaus yng Nghymru, ac yn enwedig peirianwyr gweithgar y diwydiant hwn sydd allan ym mhob tywydd ddydd a nos yn adeiladu'r rhwydweithiau y byddwn i gyd yn dibynnu ar am genedlaethau i ddod. 

"Mae cael mynediad at gysylltiad band eang dibynadwy cyflym yn dod yn fwyfwy pwysig i gartrefi a busnesau ledled Cymru a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn darparu'r seilwaith sy'n gallu eu cyflawni."

Mae rhwydwaith Openreach yn cynnig y dewis mwyaf eang o gwmnïau fel BT, Sky, TalkTalk, Vodafone a Zen, sy’n helpu i gael y bargenion gorau.

Gallwch ddarllen mwy am fuddion uwchraddio i fand eang ffeibr cyflawn ar wefan Openreach.

1 20 lleoliad band eang gorau Openreach yng Nghymru:

 LleoliadSir
1BwcleSir y Fflint
2Hen GolwynConwy
3LlangennechSir Gâr
4CaergwrleSir y Fflint
5Porth TywynSir Gâr
6CriciethGwynedd
7MostynSir y Fflint
8DinbychSir Ddinbych
9PenmaenmawrConwy
10Cei ConnahSir y Fflint
11FflintSir y Fflint
12PontycymerCaerffili
13LlanymynechSir Drefaldwyn / Powys
14PenygroesGwynedd
15RhymniCaerffili
16Y BarriBro Morgannwg
17PorthmadogGwynedd
18AberconwyConwy
19Blaenau FfestiniogGwynedd
20LlandudnoConwy

Buddsoddiad seiliedig ar gost adeiladu cyfartalog o £300 yr adeilad

download
50% full fibre coverage with SoS for Wales (Cymraeg)