31
July
2023
|
11:48
Europe/Amsterdam

Transforming Tregaron's digital future

Summary

Tregaron residents urged to sign up for ultrafast broadband scheme (Gweler fersiwn Cymraeg isod / Welsh language version below)

Engineers fibre build

Openreach is urging residents in Tregaron to get behind a bid to bring ultrafast, ultra-reliable full fibre broadband to local homes and businesses.

The company is warning that the community risks missing out on a once-in-a-lifetime full fibre upgrade, if they don’t apply for free UK Government broadband vouchers. Once they have them, they can be used to secure faster speeds and greater reliability.

If enough people sign up, residents of Tregaron  will join the near 16,000 homes and businesses across Ceredigion who already have access to full fibre broadband.

Residents can check if they qualify and pledge their voucher on the Connect My Community website.

Funding through the Governments Gigabit Broadband Voucher Scheme and the deployment of new broadband signal boosting technology* – which can extend the reach of the full fibre network, means thousands more remote rural communities are now within reach of the ultrafast technology.

Openreach identified Tregaron as being strong contenders for Full Fibre and is urging residents  to take the next step by applying for and pooling together free UK Government Gigabit Vouchers to help fund the build.[1]

Using the vouchers – which don’t cost residents anything, enables Openreach to work with a local community to build a customised, co-funded network. The vouchers can be combined to extend the ultrafast, ultra-reliable network to premises in outlying rural areas which won’t be covered by private investment.

              Martin Williams, Openreach’s Partnership Director for Wales, said: “This is an exciting opportunity for the people of Tregaron to bring all the benefits of ultrafast, ultra-reliable full fibre broadband to their community.

              “Our Fibre Community Partnership programme has meant that we’ve been able to potentially bring hundreds more communities across Wales and the rest of the UK, into our Full Fibre build plans. But building out the network to these harder to reach locations is still challenging – which is why it’s only possible with everyone working together – you, your neighbours and Openreach.

              “Everyone who pledges a voucher will be doing their bit to help make Tregaron the best-connected places in the UK.”

“We’re investing £15 billion to build full fibre broadband to 25 million homes – and more than six million of those will be in the toughest third of the UK – but we can’t upgrade the whole country alone. This latest support from government is a vital part of that process.”

Once the pledge target for the scheme is reached, residents need to ensure they then validate their vouchers with the UK Government so that Openreach can confirm that building work can get underway. As part of the funding conditions residents are asked to commit to ordering a full fibre service from a provider of their choice for at least 12 months once the new network is available and confirm they are connected.

Full fibre technology provides more reliable, resilient, and future-proof connectivity; meaning fewer faults; more predictable, consistent speeds and enough capacity to easily meet growing data demands. It's also future proof, which means it will serve generations to come and won’t need to be upgraded for decades.

Fibre optics - strands of glass around one-tenth the thickness of a human hair - transmit data using light signals. Fibre is smaller, lighter and more durable than copper cabling and less vulnerable to damage. This short video explains what full fibre technology is and there’s more info here.


[1] the decision to build, the premises covered and the timeline are subject to technical survey and the correct threshold of validated vouchers being reached

Rural build 06

Cynnig band eang ffeibr cyflawn i drigolion Tregaron


Mae Openreach yn cymell trigolion Tregaron i gefnogi cynllun i ddarparu band eang ffeibr cyflawn tra-chyflym a dibynadwy ar gyfer cartrefi a busnesau lleol.

Wrth wneud hynny mae’r cwmni yn rhybuddio’r gymuned bydd yn colli cyfle unwaith mewn oes os na fydd y trigolion yn hawlio talebau (di-dâl) band eang Gigabeit y DU. O’u derbyn, gallant eu defnyddio i gael band eang mwy cyflym a dibynadwy.

Os bydd digon o drigolion yn arwyddo, byddant yn ymuno â’r o ddeutu 16,000 cartref a busnes ar draws y Sir sydd eisoes yn gallu cael band eang ffeibr cyflawn.

Mae trigolion yn gallu gweld os ydynt yn gymwys ac addo eu talebau ar wefan Connect My Community.

Gyda chymorth cyllid Cynllun Talebau Band Eang Gigabeit y Llywodraeth ac wrth ddefnyddio technolegau band eang newydd* - sy’n gallu ymestyn cwmpas y rhwydwaith ffeibr cyflawn, yn awr mae miloedd o gymunedau gwledig o fewn cyrraedd gwasanaeth tra-chyflym.

Roedd Openreach wedi clustnodi Tregaron fel cymuned amlwg i gael band eang ffeibr cyflawn ac mae’n cymell y trigolion i gymryd y cam nesaf wrth hawlio a chrynhoi Talebau Gigabeit y Llywodraeth er mwyn helpu i ariannu’r gwaith adeiladu.[1]

Bydd addo’r talebau - a roir yn ddi-dâl i’r trigolion - yn galluogi Openreach i gydweithio â chymunedau lleol er mwyn adeiladu rhwydwaith ar y cyd. Gellir crynhoi’r talebau er ymestyn y rhwydwaith cyflym a dibynadwy i adeiladau mewn ardaloedd diarffordd na fydd yn destun buddsoddiadau preifat.

              Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Cymru Openreach: “Mae’n gyfle cyffrous i bobl Tregaron i brofi buddion band eang ffeibr cyflawn yn eu cymunedau.

              “Mae ein rhaglen Partneriaeth Ffeibr Cymunedol wedi creu’r potensial i gynnwys cannoedd o gymunedau ychwanegol drwy Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn ein cynlluniau adeiladu ffeibr cyflawn. Ond bydd cyrraedd y lleoliadau diarffordd hyn yn dal yn her - a dyna pam bydd rhaid i bawb gydweithio - sef chi, eich cymdogion ac Openreach.

              “Bydd pawb fydd yn addo taleb yn chwarae eu rhan er helpu i ddarparu’r band eang gorau yn y Deyrnas Unedig ar draws Tregaron.”

“Byddwn yn buddsoddi £15 biliwn er mwyn darparu band eang ffeibr cyflawn mewn 25 miliwn cartref - gyda dros 6 miliwn ohonynt mewn ardaloedd a ddisgrifiwyd ymhlith y traean mwyaf anodd eu cyrraedd yn y DU - ond ni fyddwn yn gallu uwchraddio’r wlad gyfan ar ben ein hunain. Mae’r cymorth diweddaraf gan y llywodraeth yn elfen hanfodol o’r broses honno.”

Unwaith bydd nifer yr addewidion yn cyrraedd targed y cynllun, bydd angen i’r trigolion ddilysu eu talebau gyda Llywodraeth y DU er mwyn galluogi Openreach i ddechrau’r gwaith adeiladu. Fel rhan o amodau’r cynllun, bydd rhaid i’r trigolion ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr cyflawn gan gwmni o’u dewis am o leiaf 12 mis, unwaith bydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau eu cysylltiad.

Mae technoleg ffeibr cyflawn yn darparu cysylltedd mwy cyflym, dibynadwy a chadarn; sy’n golygu llai o namau; cyflymderau cyson a chynhwysedd digonol er diwallu’r galw i drafod mwy o ddata. Bydd hefyd yn gwasanaethu cenedlaethau’r dyfodol ac ni fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.

Ffeibr optig - edafedd gwydr degfed yn llai trwchus na gwallt pobl - yn trosglwyddo data drwy signalau golau. Mae ffeibr yn llai, ysgafnach ac yn gadarnhach na cheblau copr ac yn llai tebygol o ddioddef difrod. Fideo byr yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn a mwy o wybodaeth yma.


[1] Penderfyniad i adeiladu, yr adeiladau perthnasol a’r amserlen yn destun arolwg technegol a dilysu talebau digonol er cyllido’r gwaith