03
November
2023
|
10:26
Europe/Amsterdam

Thousands across Conwy missing out on faster broadband

Summary

Nearly 40,000 Conwy homes and businesses can now access Openreach’s new Full Fibre broadband network. (Fersiwn Cymraeg i ddilyn / Welsh language version to follow)

Openreach engineers

Nearly 40,000 Conwy homes and businesses can now access Openreach’s new Full Fibre broadband network.

However, only around 22 per cent of people who can upgrade to Ultrafast Full Fibre broadband across the county have done so – with some parts of Conwy such as Colwyn Bay 15% and Llanrwst 17% having among the lowest take up of ultrafast broadband in Wales

People living and working across Conwy are being encouraged to find out more about the new technology – as the latest figures show that Openreach’s Full Fibre network – which offers the UK’s biggest choice of broadband providers – is now available to nearly 40,000 premises. A local investment by Openreach of around £12 million. [1]

Meanwhile a short drive across the coast to Flintshire sees take up of ultrafast broadband shoot up to more than 55% with nearly 60% of Caergwrle village residents taking up the service.  

As well as being faster, Full Fibre broadband provides more reliable, resilient and future-proof connectivity, with fewer faults; more predictable, consistent speeds; and enough capacity to use multiple devices at once.

Martin Williams, Openreach’s regional director for Wales, said: “Fast and reliable full fibre broadband gives households and businesses a boost  - it is having a huge impact on people’s daily lives.

"Switching is easy and may even be cheaper than your existing broadband package but it’s important to remember that upgrades don’t happen automatically. People need to contact, and place orders through, their broadband service provider to take advantage.

“Our engineering build continues across Conwy and the rest of Wales and we’re determined to deliver a great service to local residents, helping people to work from home easily and build connections and opportunities in their communities.”

Full Fibre supports a host of online services and entertainment such as seamless streaming and smooth online gaming experiences while businesses can operate with certainty that their broadband will support all their day-to-day, business critical tasks such as video calls, banking and customer interaction via social media platforms.

Packages from a wide range of broadband providers are increasingly competitively priced, meaning people may pay similar, or even less, per month than their current bill for a much-improved service.

Once somebody places an order with a service provider, an Openreach engineer will visit on an agreed day. They’ll run a new fibre optical cable from underground or a nearby pole to a small junction box on the outside wall of the premises. A smaller cable goes through the outside wall to an inside unit - which needs to be near a double electricity socket. Before they leave, the engineer will test the connection to make sure it’s up and running.

Openreach has announced plans to invest in Full Fibre broadband for the majority of premises in more than 35 towns and villages across North East Wales including Llanfairfechan , Mold and Ruthin. It’s part of the company’s plans to reach 25 million UK homes and businesses by the end of 2026.

Local people can visit the Openreach fibre checker, which is regularly updated with build progress and shows when full fibre is available in specific areas.

Openreach fibre build 2

 

Miloedd yn sir Conwy heb fachu ar fand eang cyflym

 

Erbyn hyn mae bron 40,000 cartref a busnes yn ardal Conwy yn gallu cysylltu â rhwydwaith ffeibr cyflawn newydd Openreach.

Fodd bynnag, dim ond tua 22% o’r bobl sy’n gallu uwchraddio i gael ffeibr cyflawn tra-chyflym ar draws y sir sydd wedi gwneud hynny - gyda rhai rhannau fel Bae Colwyn Bay 15% a Llanrwst 17% ymhlith yr ardaloedd gyda’r lefelau band eang tra-chyflym isaf yn y wlad.

Yn awr mae’r cwmni yn annog pobl yn byw a gweithio yn y sir i ddysgu mwy am y dechnoleg newydd, gyda’r ffigurau diweddaraf yn datgelu bod rhwydwaith ffeibr cyflawn Openreach - sy’n cynnig y dewis mwyaf o gwmnïau band eang yn y Deyrnas Unedig - yn awr ar gael i bron 40,000 cartref a busnes yn dilyn buddsoddiad o oddeutu £12 miliwn gan Openreach. [1]

Yn y cyfamser, mae defnydd o fand eang tra-chyflym yn sir y Fflint wedi dringo i dros 55% gydag oddeutu 60% o drigolion pentref Caergwrle wedi archebu’r gwasanaeth.  

Yn ogystal 6 darparu gwasanaeth cyflymach, mae band eang ffeibr cyflawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, cadarn a datblygedig, gyda llai o namau; cyflymder cyson; a chynhwysedd digonol i ddiwallu anghenion sawl dyfais ar yr un pryd.

Dywedodd Martin Williams, cyfarwyddwr partneriaethau Cymru Openreach: “Mae band eang ffeibr cyflawn cyflym a dibynadwy yn cynnig hwb enfawr ar gyfer cartrefi a busnesau  - gan gael effaith enfawr ar fywydau beunyddiol y boblogaeth.

“Mae trosi yn hawdd a gallai fod hyd yn oed yn rhatach na’r pecynnau band eang presennol, ond mae’n bwysig cofio na fydd gwasanaethau yn uwchraddio’n otomatig gan fod rhaid gosod archeb drwy eich cwmni band eang er mwyn elwa o’r gwasanaeth newydd.

“Bydd ein gwaith peirianneg yn parhau ar draws Conwy a gweddill y wlad, ac rydym yn benderfynol o ddarparu gwasanaeth gwych ar gyfer cymunedau, gan hwyluso gweithio gartref a datblygu cysylltiadau a chyfleoedd o fewn cymunedau.”

Mae ffeibr cyflawn yn cefnogi llwyth o wasanaethau ac adloniant arlein megis ffrydio rhaglenni teledu a gemau, tra bod busnesau yn elwa o wybod bydd band eang yn cefnogi eu busnes a gwaith beunyddiol, fel galwadau fideo, bancio a rhyngweithio â chwsmeriaid ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae amryw becynnau ar y farchnad gan amrediad eang o gwmnïau band eang, sy’n golygu bydd pobl yn talu prisiau tebyg bob mis - neu hyd yn oed llai - na’r biliau presennol am wasanaeth llawer gwell.

Unwaith bydd rhywun yn gosod archeb gyda chwmni gwasanaeth, fe drefnir ymweliad gan beiriannydd Openreach ar ddyddiad cyfleus. Bydd yn rhedeg cebl ffeibr optig newydd o dan y tir neu o bolyn cyfagos i flwch cyswllt bach ar fur allanol yr adeilad. Yna, rhedeg cebl llai drwy’r mur i uned fewnol - ger soced trydan dwbl. Bydd y periannydd yn profi’r cysylltiad cyn gadael er sicrhau bod n gwasanaeth yn rhedeg yn iawn.

Mae Openreach wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi mewn band eang ffeibr cyflawn mewn dros 35 o drefi a phentrefi ar draws y gogledd dwyrain, yn cynnwys Llanfairfechan, yr Wyddgrug a Rhuthun - sef rhan o gynlluniau’r cwmni i gyrraedd 25 miliwn cartref a busnes yn y Deyrnas Unedig erbyn diwedd 2026.

Mae Openreach fibre checker yn cynnwys manylion diweddaraf y gwaith adeiladu ac yn dangos pan fydd ffeibr cyflawn ar gael mewn ardaloedd penodol.