12
October
2023
|
09:00
Europe/Amsterdam

Openreach engineers come together for ultrafast Welsh coastal clean up

Summary

Openreach engineers up and down the country have been taking action to help clean Welsh beaches. (Gweler fersiwn Cymraeg isod / Welsh language version below) 

Beach 2v2

In a positive display of community commitment, nearly 100 Openreach engineers have volunteered their time over the last month to support Welsh communities make our beaches and lakesides cleaner and greener.

The hard working volunteers, who during the day job help keep Welsh communities connected by building and maintaining Openreach’s ultrafast full fibre network, have already collected more than 60 bags of rubbish as a result of their efforts.

In total the volunteers have already swapped their hard hats and ladders for bin bags to help clean six locations – Borth; Southerndown; Lakeside-way, Brynmawr; Llansteffan; Porthcawl and Llanberis.

Shaun White, Senior Area Manager for Openreach in Wales, expressed his pride in the engineers' voluntary actions, saying, "Our engineers are not just dedicated to providing top-notch ultrafast broadband services; they're also committed to making a positive difference in the communities they live and work in. We are thrilled to see them dedicating their time and energy to keep Welsh beaches clean and beautiful.

“The beach clean-up initiative reflects Openreach's larger commitment to sustainability and environmental responsibility. By volunteering their time to pick up litter, Openreach engineers are not only helping to maintain the natural beauty of Wales but also demonstrating our commitment to environmental conservation and community well-being while contributing to the global effort to reduce plastic pollution.”

Brian Mogford, Local Environment Technical Officer for Carmarthenshire Council said “It was a pleasure seeing the volunteers working so hard to help clean Llansteffan beach. The Openreach volunteers removed thousands of small pieces of plastic and nylon rope among other items, not an easy task.  A fantastic effort by all and will have made a huge difference to marine life for sure.” 

Beach 5

Openreach is committed to corporate social responsibility, actively engaging in initiatives that support local causes and organizations.

Openreach engineers can volunteer locally for three days every year and by encouraging employees to participate in charitable activities, the company aims to foster a culture of giving back and making a difference in the communities it serves.

With more than 29,000 commercial vehicles, Openreach operates the second largest fleet in the UK. The business is already looking to phase-out diesel vehicles by replacing them with electric vehicles (EVs) at end-of-life with the ambition of converting its entire fleet to EV by 2030.

Openreach has also updated its packaging policy which now requires its suppliers to minimise packaging and convert all remaining packaging to recyclable, reusable and “made from recycled content”. As a result this has already saved a hefty 64 tonnes of waste from the supply chain.

About Openreach in Wales

With a workforce of around 2,300 in Wales, Openreach already employs the nation’s largest team of telecoms engineers and professionals.

Recent research by the Centre for Economics and Business Research (Cebr) highlighted the clear economic benefits of connecting everyone in Wales to full fibre. It estimated this would create a £2 billion boost to the Welsh economy.

This short video explains what Full Fibre technology is and you can find out more about our Fibre First programme, latest availability and local plans here.

Beach 1

 

Peirianwyr Openreach yn glanhau traethau Cymru

 

Mae peirianwyr Openreach ar hyd a lled y wlad wedi cydweithio i helpu i lanhau traethau Cymru.

Fel arwydd o’u hymrwymiad i gefnogi cymunedau, mae oddeutu 100 o beirianwyr Openreach wedi gwirfoddoli dros y mis diwethaf i helpu cymunedau’r wlad i wneud ein traethau’n fwy glân a gwyrdd.

Mae’r gwirfoddolwyr gweithgar - sy’n helpu i gysylltu cymunedau Cymru yn eu gwaith beunyddiol wrth adeiladu a chynnal rhwydwaith ffeibr cyflawn tra-chyflym Openreach - eisoes wedi casglu dros 60 bag o sbwriel wrth wneud eu gwaith.

Hyd yma, mae’r gwirfoddolwyr wedi helpu i lanhau chwe thraeth - y Borth; Southerndown; Lakeside-way Brynmawr; Llansteffan; Porthcawl a Llanberis.

Esboniodd Shaun White, uwch reolwr ardal Openreach Cymru, pa mor falch yr oedd o waith gwirfoddol y peirianwyr, "Mae ein peirianwyr nid yn unig wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau band eang o’r radd flaenaf; maent hefyd yn benderfynol o gefnogi’r cymunedau ble maent yn byw a gweithio. Mae’n wych eu bod yn neilltuo amser ac ynni er helpu i gadw ein traethau’n hardd a glân.

 “Mae’r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach Openreach i anwesu cyfrifoldebau cynaladwy ac amgylcheddol. Wrth wirfoddoli i gasglu sbwriel, mae peirianwyr Openreach nid yn unig yn helpu i ddiogelu harddwch naturiol y wlad ond hefyd yn dangos ein hymroddiad i gynnal amgylchedd a llesiant cymunedau wrth gyfrannu at ymdrechion byd-eang i ostwng llygredd plastig.”

Dywedodd Brian Mogford, swyddog amgylchedd lleol technegol Cyngor Sir Gâr “Roedd yn bleser gweld y gwirfoddolwyr yn gweithio mor galed i lanhau traeth Llansteffan. Llwyddwyd i glirio miloedd o ddarnau plastig a rhaffau nylon ymysg eraill, nid yn dasg hawdd. Ymdrech ffantastig gan bawb fydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd môr yr ardal.”

Beach 4

Fel rhan o’i waith, mae Openreach wedi ymrwymo i gynnal cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol wrth gynnal mentrau i gefnogi achosion da a chyrff lleol.

Mae peirianwyr Openreach yn gallu gwirfoddoli yn lleol am dri diwrnod bob blwyddyn ac wrth annog gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithgaredd elusennol nod y cwmni yw meithrin diwylliant o gyfrannu a gwneud gwahaniaeth o fewn y cymunedau mae’n gwasanaethu.

Gyda dros 29,000 cerbyd masnachol, mae Openreach yn cynnal fflyd gerbydau ail fwyaf y Deyrnas Unedig. Ac erbyn hyn mae’r busnes yn edrych i gyflwyno cerbydau trydan (EVs) ar ddiwedd oes y cerbydau cyfredol gyda’r nod o drosi’r fflyd gyfan i EV erbyn 2030.

Yn ogystal, mae Openreach wedi diweddaru ei bolisi deunyddiau pacio sydd erbyn hyn yn galw ar gyflenwyr i isafu a throsi’r holl ddeunydd pacio i eitemau y gellir ailgylchu ac ailddefnyddio, a “deunydd o gynnwys wedi’i ailgylchu”. O ganlyniad, mae eisoes wedi dileu 64 tunnell o wastraff o’r gadwyn gyflenwi.

Openreach yng Nghymru

Gyda gweithlu o oddeutu 2,300 yng Nghymru, mae Openreach eisoes yn cyflogi tîm peirianwyr a gweithwyr cysylltiedig mwyaf y genedl.

Ymchwil diweddar gan CEBR (Centre for Economics and Business Research) wedi tanlinellu’r buddion economaidd clir o gysylltu pawb yng Nghymru â ffeibr cyflawn. Amcangyfrifwyd byddai’n rhoi hwb gwerth £2 biliwn i economi Cymru.

Fideo byr yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn a manylion pellach am ein rhaglen ffeibr, darpariaethau diwddaraf a chynlluniau lleol yma.