04
December
2024
|
13:20
Europe/Amsterdam

North Wales communities risk missing out on Full Fibre broadband revolution

Summary

Hundreds of households set to miss out on digital upgrade unless action is taken (Gweler fersiwn Cymraeg isod / Please see Welsh language version below)

Perth Fibre Build 03

A community broadband scheme bringing Full Fibre to rural villages across north Wales is proving popular – but hundreds of households are still missing out on this vital upgrade.

Earlier this year a number of communities across north Wales, including Llangoed, Llithfaen, Fairbourne and Llandderfel worked together with Openreach to build a new Full Fibre network by pledging free UK Government Gigabit Vouchers  as part of Openreach’s Fibre Community Partnership (FCP) .

Residents living there can now benefit from gigabit-capable speeds, transforming the way they connect at home and helping small local businesses trade and compete online.

However, some communities that have been identified as being able to benefit from the scheme are still waiting for access to Full Fibre – and Openreach is now calling on residents in villages such as Cerrigydrudion, Glasfryn , Llanfihangel, Llanfairfechan, Abergwyngregyn ,Llanfairtalhaiarn, Betws Yn Rhos and Dolwen to show their support.

With enough backing, these areas could be next in line for a Full Fibre rollout, ensuring that even the most rural parts of north Wales benefit from this future-proof technology.

David Linton, Openreach’s regional engagement manager, said: “Upgrading to Full Fibre is easy, but it doesn’t happen automatically. Openreach’s fibre checker has the latest information about our work in north Wales, and once Full Fibre is available where you live, all you need to do is contact your broadband provider, place an order, and we’ll do the rest.”

He added: “We’re building faster and further than any other company in Europe, but we need local communities to get behind the rollouts. We’ve already made huge strides across north Wales, and with enough support, we can bring full fibre to more villages, helping rural communities thrive in the digital age.”

Openreach’s ultrafast Full Fibre network across Wales already reaches more than 900,000 properties, with over 2,200 engineers living and working across the country.

The local network build is part of Openreach’s £15 billion investment to upgrade the UK’s broadband infrastructure, aiming to make gigabit-capable technology available to 25 million homes and businesses by 2026.

This once-in-a-generation upgrade is transforming daily life - helping local businesses thrive online and equipping the community with the tools needed for the digital future.

This short video explains what full fibre technology is and there’s more info here

 

Cymunedau gwledig y gogledd am golli cyfle i fod yn rhan o’r chwyldro band eang ffeibr cyflawn?

 

Mae cynllun band eang cymunedol sy’n helpu i gyflwyno band eang ffeibr cyflawn mewn pentrefi gwledig ar draws y gogledd yn profi’n boblogaidd - ond hyd yma mae cannoedd o gartrefi heb elwa o’r uwchraddiad hanfodol.

Yn gynharach eleni, cydweithiodd nifer o gymunedau ar draws y gogledd, yn cynnwys Llangoed, Llithfaen, Fairbourne a Llandderfel, gydag Openreach i adeiladu rhwydwaith ffeibr cyflawn newydd wrth addo talebau gigabeit Llywodraeth y DU  fel rhan o Partneriaeth Ffeibr Cymunedol Openreach.

Erbyn hyn mae trigolion yr ardaloedd uchod yn gallu elwa o fand eang ar gyflymder hyd at 1 gigabeit, gan drawsnewid cysylltedd eu cartrefi a helpu busnesau bach i fasnachu a chystadlu arlein.

Fodd bynnag, mae rhai cymunedau a glustnodwyd ymhlith y rhai a allai elwa o’r cynllun yn dal i aros am ffeibr cyflawn – ac yn awr mae Openreach yn galw ar drigolion pentrefi fel Cerrigydrudion, Glasfryn , Llanfihangel, Llanfairfechan, Abergwyngregyn, Llanfair Talhaiarn a Betws yn Rhos a  Dolwen i ddangos eu cymorth.

Wrth dderbyn digon o gymorth, gallai’r ardaloedd hyn fod ar y rhestr i dderbyn uwchraddiad ffeibr cyflawn, gan sicrhau bod ardaloedd mwyaf gwledig y gogledd yn elwa o’r dechnoleg ddatblygedig.

Dywedodd David Linton, rheolwr cysylltiadau rhanbarthol Openreach: “Mae uwchraddio i ffeibr cyflawn yn hawdd, ond ni fydd yn digwydd yn otomatig. Mae gwiriwr ffeibr Openreach yn cynnwys y manylion diweddaraf am ein gwaith yn y gogledd ac unwaith bydd ffeibr cyflawn yn cyrraedd eich ardal, y cwbl fydd angen fydd gosod archeb gyda chwmni band eang a byddwn ni’n gwneud y gweddill.”

Ychwanegodd: “Rydym yn adeiladu’n gyflymach a phellach nag unhyw gwmni arall yn Ewrop, ond bydd angen cymell cymunedau lleol i gefnogi ein gwaith er mwyn lledu band eang ffeibr cyflawn i fwy o ardaloedd, a helpu cymunedau gwledig i ffynnu yn yr oes ddigidol.”

Mae rhwydwaith ffeibr cyflawn Openreach yng Nghymru eisoes wedi cyrraedd dros 900,000 cartref a busnes, gyda dros 2,200 peiriannydd yn byw a gweithio yn y wlad.

Mae gwaith adeiladu’r gogledd yn rhan o fuddsoddiad £15 biliwn Openreach i uwchraddio seilwaith band eang y Deyrnas Unedig, gyda’r nod o ledu technoleg gigabeit i 25 miliwn catref a busnes erbyn 2026.

Uwchraddiad unwaith mewn cenhedlaeth yn trawsnenwid bywydau pobl - gan helpu busnesau i ffynnu arlein ac elwa o’r byd digidol.

Fideo byr yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn a’r newyddion diweddaraf yma