Openreach volunteers donate 500kg of food to Welsh foodbanks
Openreach pull together to collect half a tonne of food parcels for foodbanks across Wales (Gweler fersiwn Cymraeg isod / Please see Welsh language version below)
Openreach employees have showcased their commitment to the community by collecting an astounding 500kg of food donations, which have been distributed to foodbanks across Wales.
This incredible effort comes at a time when many families are facing unprecedented challenges and the generosity of Openreach volunteers will provide much-needed relief.
Over the past few months Openreach staff have demonstrated the company’s dedication to social responsibility by gathering food supplies at various locations across Wales. The collection drive culminated in a significant delivery to local foodbanks, ensuring that the donations reach those who need them most.
The idea for the collection came from Openreach Wales’ Advocacy Panel – a small group of Openreach volunteers from across Wales that come together every month to discuss issues that are important to the 2,200 Welsh engineers and provide advice to the Openreach Wales Board.
Russell Clarke, who’s a patch lead for Openreach engineers in and around Cardiff and Newport and a member of the Openreach Wales Advocacy Panel, explains: “I came up with the idea that we should do something for the local community.
“Every day we’re working in towns and villages maintaining and upgrading our infrastructure and we know how vital foodbanks can be for some people.
“I’m delighted to see how colleagues have embraced this idea and managed to collect an incredible amount of food parcels for foodbanks across Wales.”
Kim Mears, Openreach Wales Board Chair, said: "We are immensely proud of our volunteers who have gone above and beyond to support their communities and collect half a tonne of food parcels for foodbanks across Wales.
"Our engineers live and work across every part of Wales and this gesture demonstrates how much our communities mean to us.
“We know how important foodbanks are to a number of people so it’s rewarding to be able to play a small part in helping to prevent people from going hungry.”
Among those foodbanks to benefit from Openreach’s collection are: Bridgend, Newport, Bangor, Malpas, Nelson Taff Bargoed, Carmarthen, Gorseinon, Cardiff and Wrexham.
The food donations include a variety of essential items such as canned goods, dry foods, and other non-perishable items, all of which will help stock the shelves of foodbanks at a critical time. These contributions are expected to assist hundreds of families, alleviating some of the pressures caused by the current economic climate.
About Openreach in Wales
Openreach is on track to reach 25 million UK homes and businesses with access to Full Fibre ultrafast broadband and has already reached more than 50% (nearly 900,000) properties across every part of Wales. The network builder recently announced additional locations that are set to benefit from Openreach’s Full Fibre build.
With a workforce of around 2,200 in Wales, Openreach already employs the nation’s largest team of telecoms engineers and professionals.
Recent research by the Centre for Economics and Business Research (Cebr) highlighted the clear economic benefits of connecting everyone in Wales to Full Fibre. It estimated this would create a £2 billion boost to the Welsh economy.
This short video explains what Full Fibre technology is and you can find out more about our Fibre First programme, latest availability and local plans here.
Gweithwyr Openreach yn rhoi 500kg o fwyd i fanciau bwyd Cymru
Mae gweithwyr Openreach wedi dangos eu hymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymru wrth gasglu 500kg o fwyd ar gyfer banciau bwyd ar draws y wlad.
Gwnaed yr ymdrech anhygoel ar gyfnod pan mae llawer o deuluoedd yn wynebu heriau mawr a bydd rhoddion gwirfoddolwyr Openreach yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Dros y misoedd diwethaf, mae staff Openreach wedi cadarnhau ymrwymiad y cwmni i gynnal cyfrifoldebau cymdeithasol wrth gasglu rhoddion bwyd mewn amryw leoliadau ar draws y wlad. Arweiniodd y gwaith at wneud cyfraniad sylweddol at fanciau bwyd lleol, gan sicrhau bod y rhoddion yn cyrraedd pobl mewn gwir angen.
Syniad Panel Eiriolaeth Openreach Cymru oedd y casgliad - sef grŵp bach o wirfoddolwyr Openreach ar draws y wlad sy’n dod ynghyd bob mis i drafod materion o bwys i’r 2,200 o beirianwyr Cymreig a chynghori Bwrdd Openreach Cymru.
Esboniodd Russell Clarke, sy’n arwain grŵp o beirianwyr Openreach yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, ac yn aelod o’r Panel Eiriolaeth: “Roeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth i gefnogi cymunedau lleol.
“Byddwn yn gweithio bob dydd mewn trefi a phentrefi yn cynnal ac uwchraddio ein rhwydwaith ac felly rydym yn gwybod pa mor bwysig yw banciau bwyd wrth helpu pobl leol.
“Roeddwn yn falch iawn o weld ein cydweithwyr yn cefnogi’r syniad wrth gasglu nifer anhygoel o becynnau ar gyfer banciau bwyd ar draws y wlad.”
Dywedodd Kim Mears, cadeirydd Bwrdd Openreach Cymru: "Rydym mor falch o waith ein gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud cymaint i gefnogi eu cymunedau wrth gasglu dros hanner tunnell o becynnau ar gyfer banciau bwyd ar draws y wlad.
"Mae ein peirianwyr yn byw a gweithio ym mhob rhan o’r wlad ac mae eu cyfraniad yn dangos pa mor werthfawr yw ein cymunedau i ni.
“Rydym yn deall pa mor bwysig yw banciau bwyd i lawer o bobl felly mae’n galonogol chwarae rhan fach mewn helpu pobl i roi bwyd ar eu byrddau.”
Dyma rai o’r banciau bwyd i elwa o gasgliad Openreach: Penybont, Casnewydd, Bangor, Malpas, Nelson Taf Bargoed, Caerfyrddin, Gorseinon, Caerdydd a Wrecsam.
Mae’r pecynnau bwyd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau hanfodol fel caniau bwyd, bwydydd sych ac eitemau hir oes, fydd yn helpu’r banciau bwyd i lenwi eu silffoedd ar gyfnod anodd iawn. Rhagwelir byddant yn helpu cannoedd o deuluoedd wrth leddfu rhai o’r problemau maent yn wynebu yn yr hinsawdd ariannol bresennol.
Am Openreach Cymru
Mae Openreach yn dilyn ei raglen i ledu band eang ffeibr cyflawn i 25 miliwn cartref a busnes yn y Deyrnas Unedig ac eisoes wedi cyrraedd dros 50% o gartrefi Cymru.
Gyda gweithlu o oddeutu 2,200 yng Nghymru, mae Openreach eisoes yn cyflogi’r tîm mwyaf o beirianwyr a gweithwyr telathrebu yn y wlad.
Ymchwil diwedddar Centre for Economics and Business Research (Cebr) wedi tanlinellu’r buddion economaidd o gysylltu pawb yng Nghymru â ffeibr cyflawn. Amcangyfrifir byddai’n rhoi hwb gwerth £2 biliwn i economi Cymru.
Fideo byr yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn a mwy am ein rhaglen Fibre First, ein darpariaethau diweddaraf a chynlluniau lleol yma.