15
August
2024
|
09:48
Europe/Amsterdam

Openreach gear up to bring ultrafast speeds back to Pendine

Summary

Pendine, famous for land speed records, to get ultrafast broadband thanks to Openreach (Fersiwn Cymraeg isod / Welsh language version below) 

Full Fibre comes to Pendine

Openreach is starting work to build a new ultrafast broadband network for Pendine in Carmarthenshire – giving both residents and businesses access to some of the fastest, most reliable broadband available.

The once-in-a-generation, full fibre broadband upgrade will let locals connect multiple devices at gigabit-capable speeds and help businesses trade online and compete for decades to come.

Pendine, known for its rich history and breathtaking landscapes, is a vast 7 mile stretch of beach where numerous World Land Speed record attempts have taken place over the years. From Sir Malcolm Campbell’s first land speed record of 146.16 miles per hour (mph) in his “Blue Bird”, Welshman J.G. Parry-Thomas’ record attempts in “Babs” to more recent World records set by Guy Martin and Idris Elba.

And now the small coastal Carmarthenshire village’s connection to speed will be complemented with some of the fastest broadband speeds in Europe.

Made possible as a result of Openreach's Fibre Community Partnership Scheme, Pendine residents have applied for and pooled together free UK Government broadband vouchers that has gone towards the cost of the build.

Engineers have started work and the ultrafast broadband is expected to reach the majority of local homes and businesses throughout 2024. But more vouchers need to be pledged to ensure that the more rural parts of Pendine don’t miss out.

Full fibre broadband provides more reliable, resilient and future-proof connectivity; with fewer faults; more predictable, consistent speeds and enough capacity to easily meet growing data demands.

Residents can enjoy a host of online services and entertainment, with seamless streaming and smooth online gaming. The technology also supports day-to-day, business critical tasks like video calls, banking and online customer interactions.

Martin Williams, Openreach Partnership Director for Wales, said: “This is a really exciting opportunity for people living and working in Pendine and we’re delighted to be able to bring all the benefits of ultrafast, ultra-reliable Full Fibre broadband to the community.

“Our Fibre Community Partnership programme has meant that we’ve been able to bring thousands of additional properties across Wales and the rest of the UK into our Full Fibre build plans. But building out the network to these harder to reach locations is still challenging – which is why it’s only possible with everyone working together  – you, your neighbours and Openreach.

“We still need more pledges in Pendine to ensure we can go even further to those properties that are on the outskirts of the village so would urge people to get involved and not miss out.”

County Cllr. Jane Tremlett, Member for Laugharne Township Ward, said “Knowing this local community and understanding it’s frustrations with having poor broadband connectivity for many years, the work that has started to improve that, is absolutely welcomed.”

“Our rural communities should have the same access as our towns, to maintain their social inclusion in society and having decent broadband is integral to that. It’s great that residents have been able to apply for government vouchers, making sure that the installation bears no cost to them and I look forward to hearing about the benefits once the infrastructure is live.”

download
Full Fibre brings ultrafast speeds to Pendine

Openreach has identified around 25,000 homes and businesses in 50 communities across Wales as being within scope for Full Fibre as part of the scheme and is urging local people to take the next step by applying for and pooling together free Government Gigabit Vouchers to help fund the build.[1]

If enough people sign up, they will join around 900, 000 homes and businesses across Wales who already have access to full fibre broadband.

Funding through the UK Government’s Gigabit Broadband Voucher Scheme and the deployment of innovative engineering techniques,  means thousands more remote, rural  and coastal communities like Pendine  are now within reach of the ultrafast technology.

Similar to Pendine, residents can check if they qualify and pledge their voucher on the Connect My Community website. Using the vouchers – which don’t cost residents anything, enables Openreach to work with a local community to build a customised, co-funded network.

Once enough people pledge and validate their vouchers, Openreach engineers will start the build. This can take up to 12-18 months, and some properties may go live before others. 

You can find out more about the benefits of an upgrade to Full Fibre broadband on the Openreach website.

Full Fibre comes to Pendine

 

Openreach yn cefnogi arferion tra-chyflym Pentywyn

 

Mae Openreach yn dechrau gwaith i adeiladu rhwydwaith band eang tra-chyflym ar gyfer ardal Pentywyn, sir Gâr - gan roi cyfle i’r trigolion a busnesau fwynhau band eang yn cymharu â’r mwyaf cyflym a dibynadwy sydd ar gael.

Bydd yr uwchraddiad i fand eang ffeibr cyflawn yn galluogi pobl leol i gysylltu sawl dyfais ar gyflymderau hyd at 1 gigabeit a helpu busnesau i fasnachu a chystadlu arlein am ddegawdau.

Mae pentref Pentywyn yn enwog am ei hanes cyfoethog a thireddwau godidog, a thraeth 7 milltir o hyd sydd wedi bod yn destun sawl cais i dorri record cyflymder y byd dros y blynyddoedd. Er enghraifft, record byd cyntaf Syr Malcolm Campbell o 146.16 milltir yr awr yn “Blue Bird”, ceisiadau’r Cymro JG Parry-Thomas yn ei gar “Babs” a recordiau byd mwy diweddar Guy Martin a Idris Elba.

Ac yn awr bydd cysylltiad y pentref â chyflymderau uchel yn cael ei adlewyrchu gan wasanaeth band eang yn cymharu â’r mwyaf cyflym yn Ewrop.

Llwyddwyd i drefnu’r uwchraddiad drwy gynllun Partneriaeth Ffeibr Cymunedol Openreach. Mae trigolion Pentywyn wedi ymgeisio am dalebau band eang Llywodraeth y DU a’u cronni gyda’r gymuned gyfan er mwyn helpu i ariannu’r gwaith adeiladu.

Mae’r peirianwyr eisoes wedi dechrau eu gwaith a rhagwelir bydd band eang tra-chyflym yn cyrraedd y mwyafrif o gartrefi a busnesau’r ardal yn ystod 2024. Ond bydd angen addo mwy o dalebau er sicrhau na fydd rhai o fannau mwyaf gwledig yr ardal yn colli allan.

Bydd band eang ffeibr cyflawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy a chadarn ar gyfer y dyfodol; gyda llai o namau; cyflymderau cyson a chynhwysedd digonol er diwallu anghenion y dyfodol.

Bydd y trigolion yn gallu mwynhau llwyth o wasanaethau ac adloniant arlein, gan hwyluso ffrydio ffilmiau a gemau. Yn ogystal, bydd y dechnoleg yn cynnal tasgau busnes beunyddiol, bancio a thrafodion cwsmeriaid arlein.

Dywedodd Martin Williams, cyfarwyddwr partneriaethau Cymru Openreach: “Dyma gyfle cyffrous i’r trigolion fwynhau holl fuddion band eang cyflym a dibynadwy o fewn eu cymunedau.

“Mae ein rhaglen Partneriaeth Ffeibr Cymunedol yn golygu byddwn yn gallu cynnwys cannoedd o gymunedau ychwanegol ar draws y Deyrnas Unedig o fewn ein cynlluniau ffeibr cyflawn. Ond bydd ymestyn y rhwydwaith i gyrraedd y lleoliadau anodd hyn yn dal yn heriol - a dyna pam bydd rhaid cael pawb i gydweithio - sef chi, eich cymdogion ac Openreach.

“Mae dal angen mwy o addewidion yn ardal Pentywyn er mwyn ein galluogi i fynd hyd yn oed ymhellach a chyrraedd cartrefi a busnesau ar gyrion y pentre, felly rydym yn annog pawb i gefnogi’r bartneriaeth leol.”

Pendine van on beach

Dywedodd y cynghorydd sir, Jane Tremlett, Aelod Ward Tref Talacharn “Wrth adnabod y gymuned leol a deall eu rhwystredigaeth wrth ymdopi â chysylltedd gwael am flynyddoedd, rwy’n gwybod byddant yn croesawu’r gwaith yma.”

“Dylai ein cymunedau gwledig gael yr un cysylltedd â’r trefi er mwyn cynnal eu cynhwysedd cymdeithasol ac mae cael band eang o safon yn rhan hanfodol o hynny. Mae’n dda gweld bod y trigolion wedi gallu ymgeisio am dalebau’r Llywodraeth, gan sicrhau na fydd yr uwchraddiad yn costio ceiniog iddynt. Byddant yn elwa o wasanaeth mwy cyflym a dibynadwy pan fydd y rhwydwaith wedi’i gwblhau.”

Mae Openreach wedi nodi tua 25,000 cartref a busnes o fewn 50 cymuned ar draws y wlad fydd yn gallu derbyn band eang ffeibr cyflawn fel rhan o’r cynllun hwn ac mae’n annog pobl leol i gymryd y cam nesaf wrth wneud cais am a chronni talebau Gigabeit Llywodraeth y DU er helpu i ariannu’r gwaith adeiladu.[1]

Os bydd digon o bobl yn arwyddo, byddant yn ymuno ag oddeutu 900,000 cartref a busnes ar draws y wlad sydd eisoes yn gallu cael band eang ffeibr cyflawn.

Mae cael cyllid drwy gynllun talebau band eang gigabeit Llywodraeth y DU a defnyddio technolegau arloesol yn golygu bod miloedd o gymunedau gwledig, arfordirol a diarffordd eraill yn awr o fewn cyrraedd band eang tra-chyflym.

Yn debyg i ardal Pentywyn, mae trigolion yn gallu gwirio os ydynt yn gymwys ac addo eu talebau ar wefan Connect My Community. Bydd addo’r talebau - na fydd yn costio ceiniog i’r trigolion - yn galluogi Openreach i gydweithio â chymuned leol i adeiladu rhwydwaith ar y cyd.

Unwaith bydd digon o bobl yn addo a dilysu eu talebau, bydd peirianwyr Openreach yn dechrau’r gwaith adeiladu. Gallai hynny gymryd hyd at 12-18 mis, gyda rhai cartrefi’n mynd yn fyw cyn eraill. 

Manylion pellach am uwchraddio i fand eang ffeibr cyflawn ar wefan Openreach.