Minister visits Newbridge and Cwmtillery to explore Openreach’s Full Fibre rollout
Gweinidog yn ymweld ag ardaloedd Trecelyn & Cwmtyleri i brofi gwaith ffeibr cyflawn Openreach (Gweler fersiwn Cymraeg isod / Please see Welsh language version below)
Minister Dame Nia Griffith MP met with Openreach engineers in Newbridge and Cwmtillery to see first-hand the progress of a new Full Fibre broadband rollout — part of a huge digital upgrade delivering faster, more reliable connections across Wales.
Dame Nia was visiting in her role as the Minister responsible for digital infrastructure and connectivity in the Wales Office.
At the Newbridge telephone exchange, the Minister was shown how engineers are installing Full Fibre broadband alongside the legacy copper network, creating a more resilient and future-ready system.
The visit continued at Gwrhyd Mawr Farm in Cwmtillery, where engineers demonstrated the power of Full Fibre in action, shared the practical challenges of reaching remote areas, and invited the Minister to try her hand at fibre splicing.
The new connection at the farm was supported through Openreach’s work with the UK Government under the Project Gigabit programme, which brings ultrafast broadband to harder-to-reach rural communities.
Wales Office Minister Dame Nia Griffith said: “The UK Government is supporting Openreach in delivering ultra-fast broadband to communities across Wales and I was delighted to visit Newbridge and Cwmtillery to see this work in action. It is important that as many people as possible in Wales can access fast, reliable broadband, to help them grow their business and enjoy their leisure time.”
The visit was hosted by Martin Williams, Openreach’s regional director for Wales, who said: “It was a fantastic visit with Dame Nia Griffith. The future is bright for Wales, with full fibre speeds and unparalleled reliability becoming the norm, thanks to the hard work of our engineers.”
Openreach has invested more than £300 million in building a Full Fibre network across Wales, already reaching more than 1 million homes and businesses.
Full Fibre offers faster, more reliable connections that support the demands of modern digital life — from streaming and gaming, to running a business or working from home. With competitively priced packages from a wide range of providers, many customers find they’re paying the same or even less than before.
Nationwide, Openreach’s Full Fibre network now passes more than 19 million premises, aiming for 25 million by the end of 2026 — and potentially 30 million by 2030, subject to investment conditions.
Through Project Gigabit, Openreach is working with the UK Government to bring ultrafast broadband to harder-to-reach rural communities. The programme aims to upgrade around 290,000 properties that private providers may otherwise have overlooked.
To learn more about Full Fibre and check availability in your area, visit the Openreach Fibre Checker.
Gweinidog yn ymweld ag ardaloedd Trecelyn & Cwmtyleri i brofi gwaith ffeibr cyflawn Openreach
Cyfarfu Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith AS, â pheirianwyr Openreach yn ardaloedd Trecelyn a Chwmtyleri er mwyn gweld dros ei hun y gwaith diweddaraf ar y rhaglen band eang ffeibr cyflawn - rhan o uwchraddiad digidol enfawr i ddarparu cysylltiadau mwy cyflym a dibynadwy ar draws y wlad.
Roedd y Fonesig yn ymweld fel rhan o’i gwaith fel y Gweinidog yn gyfrifol am seilwaith a chysylltedd digodol yn Swyddfa Cymru.
Ymwelodd â chyfnewidfa Trecelyn i weld sut mae’r peirianwyr yn gosod band eang ffeibr cyflawn ochr yn ochr â’r hen rwydwaith copr, gan greu system fwy dibynadwy ar gyfer y dyfodol.
Aeth ymlaen i ymweld â Fferm Gwrhyd Mawr, Cwmtyleri, ble dangosodd y peirianwyr eu gwaith ar ffeibr cyflawn, gan esbonio’r heriau ymarferol o gyrraedd ardaloedd diarffordd, a gwahodd y Gweinidog i brofi’r grefft o sbleisio ffeibr.
Cefnogwyd cysylltiad newydd y fferm gan Openreach o dan raglen Gigabeit Llywodraeth y DU, sy’n lledu band eang tra-chyflym i ardaloedd gwledig anodd eu cyrraedd.
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith: “Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi Openreach wrth ledu band eang tra-chyflym i gymunedau ar draws y wlad ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â Threcelyn a Chwmtyleri i weld ffrwyth y gwaith yma. Mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl o bobl yng Nghymru yn gallu cael band eang cyflym a dibynadwy er mwyn eu helpu i dyfu busnesau a mwynhau eu hamser hamdden.”
Trefnwyd yr ymweliad gan Martin Williams, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru Openreach, a ddywedodd: “Profodd ymweliad y Fonesig Nia Griffith yn ffantastig. Mae Cymru yn wynebu dyfodol disglair, gyda chysylltedd ffeibr cyflawn dibynadwy yn arferol ar draws y wlad erbyn hyn, diolch i waith caled ein peirianwyr.”
Mae Openreach wedi buddsoddi dros £300 miliwn wrth adeiladu rhwydwaith ffeibr cyflawn ar draws y wlad, gan gyrraedd dros 1 miliwn cartref a busnes.
Mae ffeibr cyflawn yn cynnig cysylltiadau mwy cyflym a dibynadwy sy’n cefnogi gofynion bywyd digidol - o ffrydio a chwarae gemau i gynnal busnes neu weithio gartref. Gyda phecynnau cystadleuol gan amrediad eang o gwmnïau, mae llawer o gwsmeriaid yn talu’r un pris neu hyn yn oed llai nag yn y gorffennol.
Ar draws y Deyrnas Unedig, mae rhwydwaith ffeibr cyflawn Openreach yn awr yn gwasanaethu dros 19 miliwn cartref a busnes, gyda tharged o gyrraedd 25 miliwn erbyn diwedd 2026 - a’r potensial i gyrraedd 30 miliwn erbyn 2030, yn amodol ar amodau buddsoddi ffafriol.
Gyda chymorth Project Gigabeit, mae Openreach yn cydweithio â Llywodraeth y DU i ledu band eang tra-chyflym i gymunedau gwledig anodd eu cyrraedd. Nod y rhaglen yw uwchraddio oddeutu 290,000 cartref a busnes byddai darparwyr preifat fel arall wedi esgeuluso.
Manylion pellach am ffeibr cyflawn a darpariaeth eich ardal yn Openreach Fibre Checker.