16
October
2017
|
10:51
Europe/Amsterdam

Tŷ llety yng nghefn gwlad Ceredigion yn darparu gwasanaeth band eang cyflym iawn

Summary
Diolch i Cyflymu Cymru mae gwesteion ac ymwelwyr i Blasty Bryn Berwyn yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru bellach yn gallu mwynhau manteision di-ri band eang ffeibr cyflym iawn.

Diolch i Cyflymu Cymru mae gwesteion ac ymwelwyr i Blasty Bryn Berwyn yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru bellach yn gallu mwynhau manteision di-ri band eang ffeibr cyflym iawn.

Mae uwchraddio i ffeibr cyflym iawn ym Mryn Berwyn ger Tresaith yng Ngheredigion wedi hybu'r busnes ac yn galluogi gwesteion i fanteisio ar system wi-fi gadarn ar draws y safle.

Golyga hyn y gall ymwelwyr bori'r we yn rhwydd a gwneud y defnydd gorau o setiau teledu clyfar yr eiddo, ymhlith buddion eraill. Dywedodd y perchennog, Gareth Robinson, fod dewis band eang cyflym iawn yn benderfyniad hawdd.

Ar hyn o bryd, mae'r perchennog wedi ymrwymo i becyn sy'n cynnig cysylltedd cyflym iawn o 70Mbs i'w gwsmeriaid drwy gysylltiad ffeibr i'r adeilad (FTTP). Mae'r dechnoleg hon, lle y mae ffeibr cyflym yn cysylltu'r gyfnewidfa ffôn â'r eiddo yn uniongyrchol, yn sicrhau cyflymder sydd ymhlith y cyflymaf yn y DU. Ar hyn o bryd, mae cwsmeriaid FTTP yn gallu mwynhau cysylltiad gwibgyswllt hyd at 330Mbs a gallent fanteisio ar gyflymder gigabit sydd hyd yn oed yn gyflymach yn y dyfodol.

Dywedodd y perchennog, Gareth Robinson:

"Mae band eang cyflym iawn wedi gwneud byd o wahaniaeth ym Mryn Berwyn. Mae gallu rhoi ateb cadarnhaol i gwestiynau gwesteion ynghylch band eang a gwasanaethau wi-fi, gan wybod bod gennym gysylltedd cryf, sefydlog a chyflym mewn ardal wledig o Gymru, yn hollol wych.

"Mae'r adborth gan ymwelwyr wedi bod yn galonogol tu hwnt gyda llawer o ohonynt yn dweud pa mor falch ydynt eu bod yn gallu ffrydio deunydd manylder uwch neu weithio, hyd yn oed, gan fwynhau'r golygfeydd ysblennydd ar yr un pryd.

"Gosodwyd y band eang gwell hwn gan dyfedsuperfast.co.uk ac mae wedi ein galluogi i gynnal arolygon gyda chwsmeriaid er mwyn inni fedru parhau i wella ein gwasanaeth.

"Byddwn yn annog unrhyw fusnes i fanteisio ar fand eang cyflym iawn os oes modd. Mae wedi bod yn wych inni, wedi gwneud gwir wahaniaeth i'n gwefan www.brynberwyn.com ac wedi gwneud argraff go iawn ar ein gwesteion."

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:

"Rwy'n hynod falch bod uwchraddio i fand eang cyflym iawn wedi cael effaith mor gadarnhaol ym Mryn Berwyn ger Tresaith.

"Dyma enghraifft wych o brosiect Cyflymu Cymru yn mynd i’r eithaf i ddarparu'r seilwaith i sicrhau mynediad i fand eang ffeibr cyflym i rai o ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru.

"Gall cysylltiad cyflymach greu pob math o gyfleoedd busnes ledled Cymru. O lawrlwytho ffeiliau mawr yn gyflymach i gysylltu'n well â chwsmeriaid, gall band eang cyflym iawn wneud gwahaniaeth go iawn.

"Diolch i raglen Cyflymu Cymru, mae gan fwy na 653,000 o safleoedd ar draws Cymru fynediad i fand eang ffeibr cyflym. Heb y rhaglen hon, mae'n bosibl na fyddai gan sawl ardal yng nghefn gwlad, gan gynnwys Ceredigion, unrhyw fynediad i fand eang cyflym iawn.

"Rydym eisoes yn gweithio tuag at gynnig band eang cyflym dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau ei fanteision."

Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhanbarthol Openreach:

“Mae cyflwyno band eang cyflym iawn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae busnesau, megis Bryn Berwyn, yn gweithredu.

"Rydym yn cyflwyno cysylltedd cyflym iawn i rai o ardaloedd gwledig iawn Cymru a bydd hynny, yn ei dro, yn hybu busnesu a'r economi leol drwy gynyddu masnach, agor marchnadoedd newydd ac arbed amser.

"Mae miloedd o dai a busnesau yng Ngheredigion eisoes yn gallu gwneud yr un peth â Bryn Berwyn a mwynhau'r cyflymder band eang gorau erioed. Byddem yn annog pobl leol i edrych ar yr hyn sy'n bosibl.

"Mae'n farchnad hynod gystadleuol, felly gallai pobl fod yn ffrydio yn gyflymach am gost debyg i'w gwasanaeth presennol. Ni fyddwch byth yn difaru newid i fand eang cyflym iawn."

Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yw Cyflymu Cymru, sy’n dod â band eang mwy cyflym i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhedeg cynllun Allwedd Band Eang Cymru, sy’n gallu cynnig grant ar gyfer cael band eang cyflym iawn drwy dechnolegau eraill os bydd angen.

Ceir rhagor o fanylion yn www.llyw.cymru/cyflymu