13
June
2022
|
15:56
Europe/Amsterdam

Kayleigh answers call for Aussie Rules

Summary

Sports mad engineering trainer reaches new heights for Openreach and Wales (Gweler fersiwn Cymraeg isod - Welsh language version available below)

Kayleigh Tonge-Jones Aussie Rules

Openreach’s Kayleigh Tonge-Jones will be swapping her Openreach hard hat and safety equipment for a sleeveless Aussie Rules singlet when she steps out in Welsh colours at this year’s Aussie Rules European Finals in Scotland.

Kayleigh, who hails from Cardiff and works as an Openreach trainer has been picked to represent her country as Wales take on the rest of Europe in this year’s Women’s European Championship in Edinburgh, Scotland this weekend (18 June).

There are 11 teams competing in this year’s Championship and current holders Ireland remain favourites to win the top prize once again.

First up Wales will take on hosts Scotland before playing Sweden and each game will be shown live on AFL Europe

To make this all happen Kayleigh, who picked up an Aussie Rules ball for the first time a little over three months ago, is taking leave from work and financing the entire journey herself. From flights, accommodation and food Kayleigh and the rest of her squad will have to pay out of their own pocket to represent their country.

Kayleigh explains: “It’s an incredible honour to represent your country and I can’t wait to get out there and do my very best.”

“As an amateur sport we’re not financially renumerated in any way so have to fund the journey and everything that comes with it ourselves. From the kit we wear to the overnight accommodation we pay for everything. We even have to chip-in and pay for the referee’s!

“It’s going to be an incredible experience and will certainly make a change to showing trainee engineers how to safely climb poles or joint fibre cables.”

But this isn’t where Kayleigh’s sporting talents, or Openreach’s links with Aussie Rules, end.

Later his summer Kayleigh will be representing Wales once again but this time in touch rugby at the Women’s European Championships in Nottingham.

Openreach also has another Aussie Rules Welsh international on the books in the shape of Owain Ryland. Cardiff based Owain, who has previously represented Team GB, will also be making his way up to Scotland this weekend to represent Wales in the Men’s European Championship.

Kayleigh, who’s established a Go Fund me page to help fund her sporting dreams, joined Openreach a little under 7 years ago after graduating from South Wales University with a degree in Sport and Exercise Science straight out of university.

Starting as a trainee engineer learning how to fix faults on the line Kayleigh has since progressed within the business to becoming a trainer herself and currently works in Openreach’s state-of-the art National Learning Centre for Wales in Newport.

Openreach employs the UK’s largest team of telecoms engineers and professionals, and has committed to building a more diverse and inclusive team in an industry that’s traditionally been very white, male dominated. Last financial year, the company attracted around 530 women into trainee engineering roles – more than double the previous year. The boost was thanks partly to employing language experts to transform its job adverts and descriptions, making them gender neutral.

About Openreach in Wales

Openreach is well on track to reach 25 million UK homes and businesses with access to Full Fibre ultrafast broadband by December 2026 and has already reached around 450,000 properties across Wales.

With a workforce of around 2,300 across Wales, Openreach already employs the nation’s largest team of telecoms engineers and professionals. The business recently announced that it would create and fill around 250 additional jobs throughout Wales during 2022 as it continues to invest billions of pounds into its UK broadband network, people and training.

Across Wales more than 100,000 homes and businesses have already ordered a full fibre service from a range of retail service providers using the Openreach network. But this means that thousands more could be benefiting from some of the fastest, most reliable broadband connections in Europe and have yet to upgrade.

Kayleigh Tonge-Jones Aussie Rules 2

Kayleigh yn ateb yr alwad i Openreach ac Aussie Rules

 

Bydd peiriannydd Openreach Kayleigh Tonge-Jones yn newid ei het ac offer diogelwch am grys Aussie Rules pan fydd yn chwarae i Gymru yn rowndiau terfynol Aussie Rules Ewrop yn yr Alban.

Mae Kayleigh yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel hyfforddwraig. Dewiswyd i gynrychioli ei gwlad pan fydd y tîm yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Menywod Ewrop yng Nghaeredin dros y penwythnos nesaf (18 Mehefin).

Bydd 11 tîm yn cystadlu eleni, gydag enillwyr y llynedd Iwerddon yn ffefrynnau i gipio’r wobr unwaith eto.

Gêm gyntaf Cymru fydd yn erbyn yr Alban, cyn chwarae Sweden, gyda phob gêm yn fyw ar AFL Europe

Er mwyn ymuno â’r tîm, bydd Kayleigh yn cymryd amser i ffwrdd o’i gwaith ac yn ariannu’r holl beth ei hun, a hynny ar ôl cyffwrdd pêl Aussie Rules am y tro cyntaf prin dri mis yn ôl. Bydd Kayleigh a gweddill y sgwad yn gorfod talu costau teithio, llety a bwyd eu hunain er mwyn cynrychioli eu gwlad.

Esboniodd Kayleigh: “Bydd yn fraint anhygoel cynrychioli Cymru ac rwy’n benderfynol o wneud fy ngorau glas.”

“Fel gêm amatur, ni fyddwn yn derbyn unrhyw arian am chwarae ac felly’n gorfod talu am y siwrne a phopeth cysylltiedig ein hunain. O’r cit ac offer i’r llety dros nos, ni sy’n talu popeth. Byddwn hyd yn oed yn helpu i dalu am y dyfarnwr!

“Bydd yn sicr yn brofiad anhygoel ac yn dra gwahanol i ddysgu darpar beirianwyr i ddringo polion yn saff neu uniadu ceblau ffeibr.”

Ond nid dyna ddiwedd ar dalentau chwaraeon Kayleigh, neu gysylltiad Openreach ag Aussie Rules.

Dros yr haf bydd Kayleigh yn cynrychioli Cymru unwaith eto, ond y tro hwn wrth chwarae rygbi bach ym Mhencampwriaeth Menywod Ewrop yn Nottingham.

Ar ben hynny, mae chwaraewr Aussie Rules rhyngwladol arall yn gweithio i Openreach, sef Owain Ryland, sy’n byw yn y brifddinas ac wedi cynrychioli Team GB yn y gorffennol. Bydd Owain hefyd yn teithio i’r Alban dros y penwythnos i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Dynion Ewrop.

Sefydlodd Kayleigh dudalen Go Fund Me er mwyn helpu i ariannu ei chwaraeon. Ymunodd ag Openreach tua 7 blynedd yn ôl ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru gyda gradd mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.

Dechreuodd fel darpar beiriannydd yn dysgu sut i daclo problemau ar linellau ffôn ac ers hynny mae ei gyrfa wedi datblygu i fod yn hyfforddwraig ei hun, yn gweithio mewn canolfan dysgu cenedlaethol Cymru Openreach, Casnewydd.

Mae Openreach eisoes yn cynnal y tîm mwyaf o beirianwyr a gweithwyr cysylltiedig yn y Deyrnas Unedig ac wedi ymrwymo i adeiladu tîm mwy amrywiol a chynhwysol o fewn diwydiant sy’n draddodiadol wedi cynnwys mwyafrif llethol o weithwyr sy’n ddynion gwyn. Y llynedd, recriwtiodd y cwmni oddeutu 530 o fenywod ar gyfer rolau hyfforddi peirianwyr - dros ddwywaith yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. Gwelwyd y cynnydd yn rhannol ar ôl cyflogi arbenigwyr iaith er trawsnewid hysbysebion a disgrifiadau swyddi, gan eu gwneud yn niwtral o ran cenedl.

Am Openreach yng Nghymru

Mae Openreach yn dilyn ei raglen i gyrraedd 25 miliwn cartref a busnes yn y Deyrnas Unedig erbyn Rhagfyr 2026 ac eisoes wedi cyrraedd oddeutu 450,000 cartref a busnes yng Nghymru.

Wrth gyflogi 2,300 yng Nghymru, mae Openreach eisoes yn cynnal y tîm mwyaf o beirianwyr a gweithwyr cysylltiedig yn y wlad. Yn ddiweddar cyhoeddodd y cwmni ei fod am greu a llenwi oddeutu 250 swydd ychwanegol yng Nghymru yn ystod 2022 wrth barhau i fuddsoddi £biliynau mewn rhwydwaith band eang, pobl a hyfforddiant yn y Deyrnas Unedig.

Yng Nghymru mae dros 100,000 cartref a busnes eisoes wedi archebu gwasanaeth ffeibr cyflawn gan amryw gwmnïau gwasanaeth sy’n defnyddio rhwydwaith Openreach. Ond mae hynny hefyd yn golygu gallai miloedd o bobl eraill elwa o’r cysylltiadau band eang mwyaf cyflym a dibynadwy yn y byd, ond heb wneud hynny eto.