16
December
2020
|
10:25
Europe/Amsterdam

Burry Port residents urged to pool Government-backed vouchers to deliver more ultrafast broadband

Summary

Openreach is asking residents in Burry Port to get behind a bid to bring ultrafast, ultra-reliable full fibre broadband to even more local homes and businesses. (Gweler fersiwn Cymraeg isod / Welsh version below)

Openreach is asking residents in Burry Port to get behind a bid to bring ultrafast, ultra-reliable full fibre broadband to even more local homes and businesses.

The company is planning Burry Port’s new full fibre broadband network and is urging local residents and businesses to consider pooling broadband vouchers available from the UK and Welsh Governments to help extend the build even further.

Residents who don’t already have access to a 100Mbps broadband service can check if they may qualify and pledge their voucher on the Connect My Community website.

The vouchers can be combined to extend the ultrafast, ultra-reliable network to premises in outlying rural areas which won’t be covered by private investment.

Connie Dixon, Openreach’s partnership director for Wales, said: “This is a really exciting opportunity for Burry Port to bring full fibre infrastructure to the very hardest-to-reach local addresses.

“Because we’ve already committed to build full fibre to the majority of the town, the Welsh and UK government is supporting this incremental approach to help us go even further. But it’s only possible with everyone working together – you, your neighbours and Openreach.

“Everyone who pledges a voucher will be doing their bit to help make Burry Port one of the best-connected places in Wales. Pledging couldn’t be simpler, but we need residents to act quickly – as the scheme closes in March 2021.”

Connie added: “A number of local homes can already upgrade to the Openreach full fibre network and local people can use our online postcode checker to see what’s now available.

“We’re investing £12 billion to build full fibre broadband to 20 million homes – and more than three million of those will be in the toughest third of the UK – but we can’t upgrade the whole country alone. This latest support from government, alongside help to remove red tape and barriers that slow down the build, is vital.”

To claim vouchers which contribute towards the cost of building the new network, residents are asked to commit to ordering a full fibre service from a provider of their choice for at least 12 months once the new network is available.

Eligible residents can qualify for up to a maximum of £3,000 while small to medium sized businesses can claim up to £7,000 under the UK Government’s Gigabit Broadband Voucher Scheme which has been topped up by Welsh Government funding.

Llanelli’s Member of the Senedd, Lee Waters, said: “In such a short space of time we’ve come to realise how important good connectivity is for us to interact fully with the world. Full fibre technology will make a massive difference to homes and businesses in Burry Port. It makes sense for this programme to be extended as far as possible. Residents should check online if they are eligible for this broadband boost and consider pledging their vouchers to help us make sure nobody is left behind from better connectivity.”

Full fibre technology provides more reliable, resilient and future-proof connectivity; meaning fewer faults; more predictable, consistent speeds and enough capacity to easily meet growing data demands. It's also future-proof, which means it will serve generations to come and won’t need to be upgraded for decades.

Fibre optics - strands of glass around one-tenth the thickness of a human hair - transmit data using light signals. Fibre is smaller, lighter and more durable than copper cabling and less vulnerable to damage. This short video explains what full fibre technology is and there’s more info here.

-ends-

Annog trigolion Porth Tywyn i gronni talebau’r Llywodraeth er mwyn darparu band eang ffeibr tra chyflym

 

Mae Openreach yn gofyn trigolion Porth Tywyn i gefnogi cais i ledu band eang ffeibr cyflawn tra chyflym i hyd yn oed mwy o gartrefi a busnesau lleol.

Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cynllunio rhwydwaith band eang ffeibr cyflawn yr ardal ac yn annog trigolion a busnesau lleol i ystyried cronni talebau band eang gan lywodraethau Cymru a San Steffan er mwyn ymestyn y rhwydwaith a gwasanaethu cymaint o’r ardal â phosibl.

Mae trigolion nad ydynt eisoes yn gallu cael gwasanaeth band eang 100Mbps yn gallu gweld os ydynt yn gymwys i gael taleb a’i addo i gwmni gwasanaeth ar wefan Connect My Community.

Gellir cyfuno’r talebau er mwyn ymestyn y rhwydwaith tra chyflym a lledu band eang ffeibr cyflawn i ardaloedd nad ydynt yn rhan o gynlluniau uwchraddio preifat.

Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwraig partneriaeth Cymru Openreach: “Dyma gyfle cyffrous i ardal Porth Tywyn gynnig gwasanaeth band eang ffeibr cyflawn i’r cyfeiriadau lleol mwyaf anodd eu cyrraedd.

“Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddarparu band eang ffeibr ar gyfer y rhan helaeth o’r dref, gyda llywodraethau Cymru a San Steffan yn cefnogi ein gwaith er mwyn lledu’r rhwydwaith hyd yn oed ymhellach. Ond bydd hynny ond yn bosibl wrth gael pawb i gydweithio - chi, eich cymdogion ac Openreach.

“Bydd pawb sy’n addo taleb yn chwarae ei ran wrth helpu i ddarparu cysylltiadau cyfathrebu yn ardal Porth Tywyn fydd yn cymharu â’r gorau yng Nghymru. Mae’r broses yn hawdd, ond bydd angen ei dilyn yn gyflym - oherwydd bydd y cynllun yn dod i ben ym mis Mawrth 2021.”

Ychwanegodd Connie: “Mae nifer o gartrefi lleol eisoes yn gallu uwchraddio i rwydwaith ffeibr cyflawn Openreach, gyda thrigolion yn gallu defnyddio ein gwiriwr cod post i weld beth sydd ar gael.

Rydym yn buddsoddi £12 biliwn er lledu band eang ffeibr cyflawn i 20 miliwn cartref - gyda dros dair miliwn ohonynt yn yr ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd ar draws y Deyrnas Unedig - ond ni fyddwn yn gallu uwchraddio’r wlad gyfan ar ben ein hunain. Mae cynllun cymorth y llywodraeth, ynghyd â help i daclo biwrocratiaeth a rhwystrau eraill, yn gwbl hanfodol.”

Er mwyn hawlio talebau fydd yn cyfrannu at gostau adeiladu’r rhwydwaith newydd, gofynnir trigolion i ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr cyflawn gan gwmni o’u dewis am o leiaf 12 mis ar ôl darparu’r rhwydwaith newydd.

Mae trigolion cymwys yn gallu cael hyd at uchafswm o £3,000 tra bod busnesau bach i ganolig yn gallu hawlio hyd at £7,000 o dan y Cynllun Talebau Band Eang Gigabeit, gyda Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y swm ym mhob achos.

Dywedodd Aelod Senedd Llanelli, Lee Waters: “Mewn cyfnod byr iawn rydym wedi sylweddoli pa mor bwysig yw cysylltiadau cyfathrebu o’r radd flaenaf er mwyn rhyngweithio â gweddill y byd. Bydd technoleg ffeibr cyflawn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gartrefi a busnesau Porth Tywyn, ac mae’n bwysig lledu’r rhaglen adeiladu hon gymaint ag y gallwn. Dylai’r trigolion edrych arlein i weld os ydynt yn gymwys i gael band eang ffeibr ac addo eu talebau er mwyn ein helpu i ymestyn y rhwydwaith i bawb sydd am ei gael.”

Mae technoleg ffeibr cyflawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy ar gyfer y dyfodol; fydd yn golygu llai o namau; gwasanaeth cyflym a chyson, a chynhwysedd digonol er ymateb i’r galw cynyddol am ddata. Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.

Ffeibr optig - llinynnau gwydr oddeutu degfed trwch gwallt - sy’n trosglwyddo data wrth ddefnyddio signalau golau. Mae ffeibr yn llai ac yn fwy ysgafn a gwydn na cheblau copr ac yn llai tebygol o ddioddef difrod. Mae’r fideo yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn a mwy o fanylion yma.

-diwedd-