02
December
2020
|
09:46
Europe/Amsterdam

Beaumaris residents urged to pool Government-backed vouchers to secure ultrafast broadband

Openreach is asking residents in Beaumaris to get behind a bid to bring ultrafast, ultra-reliable full fibre broadband to the town. (Gweler Cymraeg isod / Welsh version below)

Openreach is urging local residents and businesses to consider pooling Gigabit broadband vouchers available from the UK and Welsh Governments to help build a new, gigabit-capable network, where fibre is run directly from the exchange all the way to each property.

Residents who don’t already have access to a 100Mbps broadband service can check if they qualify and pledge their voucher on the Connect My Community website.

Utilising the vouchers enables Openreach to work with a local community to build a customised, co-funded network and bring full fibre broadband to areas not included in any existing private or publicly subsidised upgrade schemes.

By working with Openreach in this way more than 120,000 homes and businesses across the UK can already benefit from ultrafast, ultra-reliable broadband.

Connie Dixon, Openreach’s partnership director for Wales, said: “This is a really exciting opportunity for the community of Beaumaris to bring full fibre infrastructure to their town.

“Everyone who pledges a voucher will be doing their bit to help make Beaumaris one of the best-connected places in North Wales. Pledging couldn’t be simpler, but we need residents to act quickly – as the scheme closes in March 2021.”

Connie added: “Thousands of homes and businesses across Wales can already upgrade to the Openreach full fibre network and local people can use our online postcode checker to see what’s now available.

“We’re investing £12 billion to build full fibre broadband to 20 million homes – and more than three million of those will be in the toughest third of the UK – but we can’t upgrade the whole country alone. This latest support from government, alongside help to remove red tape and barriers that slow down the build, is vital.”

To claim vouchers which contribute towards the cost of building the new network, residents are asked to commit to ordering a full fibre service from a provider of their choice for at least 12 months once the new network is available.

Eligible residents can qualify for up to a maximum of £3,000 while small to medium sized businesses can claim up to £7,000 under the UK Government’s Gigabit Broadband Voucher Scheme which has been topped up by Welsh Government funding.

Welcoming the initiative, Dafydd Gruffydd, Managing Director of Menter Môn, an organisation that has identified connectivity as being a key issue for communities throughout Gwynedd and Ynys Môn, said:

” Our communities need fantastic connectivity to fully interact with the world. Full fibre technology will make a massive difference to local homes and businesses and it makes sense that any build programme is extended as far as possible.

“It’s good to see Openreach working with communities and we would encourage residents to consider pledging their vouchers and help us to make sure that nobody’s left behind.”

Full fibre technology provides more reliable, resilient and future-proof connectivity; meaning fewer faults; more predictable, consistent speeds and enough capacity to easily meet growing data demands. It's also future-proof, which means it will serve generations to come and won’t need to be upgraded for decades.

Fibre optics - strands of glass around one-tenth the thickness of a human hair - transmit data using light signals. Fibre is smaller, lighter and more durable than copper cabling and less vulnerable to damage. This short video explains what full fibre technology is and there’s more info here.

 

Annog trigolion Biwmares i ddefnyddio talebau’r llywodraeth er mwyn cael band eang tra chyflym

Mae Openreach yn gofyn trigolion Biwmares i gefnogi cynnig i ddarparu band eang ffeibr cyflawn, tra chyflym a dibynadwy yn y dref.

Nod y cwmni yw cael trigolion a busnesau lleol i addo talebau band eang Gigabeit gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn helpu i adeiladu rhwydwaith newydd yn cynnig gwasanaeth band eang gigabeit, fydd yn rhedeg ffeibr yn syth o’r gyfnewidfa i bob cartref a busnes.

Mae trigolion nad ydynt eisoes yn gallu cael gwasanaeth band eang 100Mbps yn gallu gweld os ydynt yn gymwys i gael taleb a’i addo i gwmni gwasanaeth ar wefan Connect My Community.

Bydd addo’r talebau yn galluogi Openreach i gydweithio â chymuned leol i ariannu ac adeiladu rhwydwaith ar y cyd, a lledu band eang ffeibr cyflawn i ardaloedd nad ydynt yn rhan o gynlluniau uwchraddio preifat neu gyhoeddus.

Wrth gydweithio ag Openreach fel hyn mae dros 120,000 cartref a busnes ar draws y Deyrnas Unedig eisoes yn gallu elwa o fand eang tra chyflym a dibynadwy.

Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwraig partneriaethau Cymru: “Dyma gyfle cyffrous i gymuned Biwmares sicrhau rhwydwaith ffeibr cyflawn yn eu tref.

“Bydd pawb sy’n addo taleb yn chwarae eu rhan wrth helpu i ddarparu cysylltiadau cyfathrebu yn ardal Biwmares fydd yn cymharu â’r gorau yng ngogledd Cymru. Mae’r broses yn hawdd, ond bydd angen ei dilyn yn gyflym - oherwydd bydd y cynllun yn dod i ben ym mis Mawrth 2021.”

Ychwanegodd Connie: “Mae miloedd o gartrefi a busnesau ar draws y wlad eisoes yn gallu uwchraddio i rwydwaith ffeibr cyflawn Openreach, gyda thrigolion yn gallu defnyddio ein gwiriwr cod post i weld beth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Rydym yn buddsoddi £12 biliwn er lledu band eang ffeibr cyflawn i 20 miliwn cartref - gyda dros dair miliwn ohonynt yn yr ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd ar draws y Deyrnas Unedig - ond ni fyddwn yn gallu uwchraddio’r wlad gyfan ar ben ein hunain. Mae cynllun cymorth y llywodraeth, ynghyd â help i daclo biwrocratiaeth a rhwystrau eraill, yn gwbl hanfodol.”

Er mwyn hawlio talebau fydd yn cyfrannu at gostau adeiladu’r rhwydwaith newydd, gofynnir trigolion i ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr cyflawn gan gwmni o’u dewis am o leiaf 12 mis ar ôl darparu’r rhwydwaith newydd.

Mae trigolion cymwys yn gallu cael hyd at uchafswm o £3,000 tra bod busnesau bach i ganolig yn gallu hawlio hyd at £7,000 o dan y Cynllun Talebau Band Eang Gigabeit, gyda Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y swm ym mhob achos.

Wrth groesawu’r fenter dywedodd, Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn, corff sydd wedi nodi cysylltedd cyfathrebu fel mater allweddol i gymunedau Gwynedd ac Ynys Môn: ”Mae ein cymunedau angen cysylltiadau cyfathrebu o’r radd flaenaf er mwyn rhyngweithio â’r byd. Bydd technoleg ffeibr cyflawn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gartrefi a busnesau lleol, a bydd yn bwysig lledu unrhyw raglen adeiladu mor bell â phosib.

“Mae’n dda gweld Openreach yn cydweithio â chymunedau ac rydym yn annog trigolion i addo eu talebau er mwyn ein helpu i ymestyn y rhwydwaith i bawb sydd am ei gael.”

Mae technoleg ffeibr cyflawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy ar gyfer y dyfodol; fydd yn golygu llai o namau; gwasanaeth cyflym a chyson, a chynhwysedd digonol er ymateb i’r galw cynyddol am ddata. Gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.

Ffeibr optig - llinynnau gwydr oddeutu degfed trwch gwallt - sy’n trosglwyddo data wrth ddefnyddio signalau golau. Mae ffeibr yn llai ac yn fwy ysgafn a gwydn na cheblau copr ac yn llai tebygol o ddioddef difrod. Mae’r fideo yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn a mwy o fanylion yma.