11
December
2017
|
11:46
Europe/Amsterdam

Asiantaeth o Bowys yn greadigol gyda band eang cyflym iawn

Summary
​Mae ymgynghoriaeth brandio, marchnata a chyfathrebu digidol o’r Drenewydd, Powys, yn mynd o nerth, diolch i Cyflymu Cymru.

Mae ymgynghoriaeth brandio, marchnata a chyfathrebu digidol o’r Drenewydd, Powys, yn mynd o nerth, diolch i Cyflymu Cymru.

Mae Arweinydd y Tŷ Llywodraeth Cymru, Julie James, sydd hefyd yn gyfrifol am seilwaith digidol, wedi ymweld â Motif Creative i ddysgu rhagor am y gwahaniaeth y mae band eang cyflymach wedi ei wneud i’r cwmni.

Mae eisoes wedi sicrhau contractau strategol yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop. Mae buddsoddiad yn y seilwaith Cwmwl, gyda chefnogaeth band eang cyflym iawn, wedi rhoi cymorth iddynt oresgyn rhwystrau daearyddol a chaniatáu iddo gystadlu’n llwyddiannus yn erbyn asiantaethau o dramor.

Mae’r gallu i gyfathrebu a rhannu ffeiliau digidol mawr a gwybodaeth ddigidol o bell wedi caniatáu i’r cwmni gyflawni prosiectau’n effeithiol a lleihau teithiau rhyngwladol y gweithredwyr allweddol. Mae defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes fideo-gynadledda wedi helpu hynny hefyd.

Bellach, gan ddefnyddio’u cyflymdra 73Mbps i lawrlwytho o’r rhyngrwyd, mae Motif Creative bellach yn defnyddio meddalwedd cynadledda ar-lein Cisco, sef WebEx, i gynnal pedwar i bum cyfarfod ‘rhithiol’ yr wythnos gyda chleientiaid rhyngwladol.

Aeth cynrychiolaeth o’r asiantaeth i weithdy yng ngofal Cyflymu Cymru i Fusnesau, a roddodd gyngor iddynt ar sut i fanteisio i’r eithaf ar eu cyswllt cyflym iawn.

Dywedodd Stuart Spooner, rheolwr gyfarwyddwr Motif: “Mae’n amlwg bod technoleg yn dod yn fwy o ffactor sy’n cynhyrchu refeniw ac yn cynnal twf, ac wrth reswm, bydd busnesau sydd ddim yn buddsoddi yn cael eu gadael ar ôl. Mae tua 40 y cant o’n refeniw ni yn dod o gwsmeriaid rhyngwladol, mae hynny wedi peri i ni ragfynegi y bydd cynnydd o 25 y cant yng nghyfanswm ein refeniw erbyn 2019.

“Mae cael systemau TG effeithiol yn allweddol i ni yn y diwydiant. Roedd gallu cael cymorth gan ymgynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau, a oedd yn deall y busnes a chymhlethdod rhannu ffeiliau ar fand eang cyflym iawn yn amhrisiadwy.

“Mae’r gallu i roi atebion creadigol i’n cleientiaid law yn llaw â gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel yn greiddiol i lwyddiant yn ein sector ni. Wedi dweud hynny, mae croesawu technolegau newydd â breichiau agored yn dod yn bwysicach bob dydd, yn enwedig wrth i ni gystadlu mewn marchnad byd eang.”

Dywedodd Julie James: “Mae cael cyfle i weld y gwahaniaeth y mae band eang cyflym iawn yn ei wneud i gwmnïau ledled Cymru, ac yma yn y Drenewydd, yn wych. Hanfod Cyflymu Cymru yw dod â band eang cyflym iawn i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall. Doedd yr un eiddo ym Mhowys i fod i gael band eang cyflym iawn drwy gwmnïau masnachol, ond bellach mae bron i 50,000 eiddo yn y sir yn gallu elwa ar fand eang cyflym iawn, diolch i’n rhaglen ni.

“Hefyd, mae Motif Creative wedi elwa ar gael ymgynghori â Cyflymu Cymru i Fusnesau, er mwyn gallu gwneud y mwyaf o’r rhyngrwyd cyflymach. Mi fyddem i yn annog busnesau i ddilyn esiampl Motif Creative, a dod o hyd i sut y gallant elwa i’r eithaf ar dechnolegau ar-lein i roi hwb i’r busnes.

“Mae cael band eang cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni, ac i ddweud y gwir mae’r gwasanaeth yma yn y Drenewydd yn well nag yn ein swyddfa arall yn Nottingham.”

Dywedodd Ed Hunt, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Openreach, y busnes sy’n gyfrifol am rwydwaith ffôn a band eang mwyaf Prydain: “Mae Cyflymu Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn gwneud Cymru yn un o’r arweinwyr yn Ewrop o ran perfformiad digidol a chysylltedd.

Mae'n wych bod busnesau mewn trefi fel y Drenewydd, bellach yn gallu manteisio ar yr un gwasanaethau ffeibr a’r un cyflymder am yr un pris â'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng nghanol Llundain.

“Mae’n dda gweld cwmnïau fel Motif Creative yn manteisio ar y cyflymder newydd yma.

Er bod llawer i'w wneud eto o ran cyflwyno’r cynllun, byddwn yn annog pob busnes sydd eisoes wedi’i gysylltu i wneud y mwyaf o'r rhwydwaith cyflym iawn newydd hwn sy’n cael ei adeiladu gan ein peirianwyr ledled y wlad."

Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT Group, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yw Cyflymu Cymru, sy’n dod â band eang cyflymach i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhedeg cynllun Allwedd Band Eang Cymru, sy’n gallu cynnig grant ar gyfer cael band eang cyflym iawn drwy dechnolegau eraill os bydd angen.

Gall Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy’n cael cefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, helpu busnesau i wella’u sefyllfa ariannol, cyrraedd mwy o gwsmeriaid a symleiddio prosesau gwaith, gyda rhaglen o gymorth am ddim. Maent yn anelu at roi cymorth i chi fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau ar-lein a thrwy hynny sicrhau bod eich busnes yn parhau i dyfu.

https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy